Mae dynes wedi syrthio i’w marwolaeth ar un o fynyddoedd peryclaf Eryri.

Roedd i’n cerdded i lawr llethr orllewinol crib ogleddol Tryfan gyda’i gwr pan syrthiodd i lawr ceunant dwfn brynhawn ddoe. Fe alwodd ei gŵr am help gan nad oedd yn gallu ei chyrraedd, a bu aelodau o dimau achub mynydd Dyffryn Ogwen, Llanberis ac Aberglaslyn yn chwilio amdani gyda help hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Cafwyd hyd i’w chorff yn y ceunant oriau’n ddiweddarach.