Chris Coleman yn lansio'r ymgyrch
Mae Chris Coleman wedi dweud ei fod yn difaru peidio dysgu mwy o Gymraeg pan oedd yn ifanc, gan annog mwy o ddisgyblion ysgol i astudio ieithoedd eraill.

Roedd rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn siarad yn ystod lansiad pecynnau addysg newydd sydd yn ceisio cyflwyno ieithoedd tramor i’r dosbarth gan ddefnyddio Ewro 2016 fel ysbrydoliaeth.

Bydd Cymru’n un o 24 o wledydd fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn Ffrainc yn yr haf, ac roedd sawl un o chwaraewyr y garfan hefyd yn awyddus i gefnogi’r cynllun.

“Weithiau ‘dych chi ddim yn sylwi pa mor bwysig yw e tan eich bod chi’n byw yng ngwlad rhywun arall ac yn gorfod sgwrsio bob dydd,” meddai Coleman, sydd wedi bod yn rheolwr yn Sbaen a Groeg am gyfnodau.

“I mi Sbaeneg oedd e, ac roeddwn i wastad yn nerfus rhag ofn mod i’n dweud y peth anghywir – ond y peth da am bêl-droed yw ei bod hi’n iaith ryngwladol.”

‘Dysgu’r iaith frodorol’

Cafodd yr adnoddau addysgol eu cynhyrchu fel rhan o gynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru  ac maen nhw bellach ar gael ar Hwb, y platfform dysgu digidol ar gyfer ysgolion.

Ar hyn o bryd mae’r pecynnau yn dod mewn chwe iaith – Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Chymraeg (ar gyfer disgyblion ail iaith).

Ac yn ôl rheolwr Cymru, dim ond wrth fynd yn hŷn y mae rhywun weithiau’n sylwi ar y manteision allai fod wedi dod o ddysgu iaith arall yn gynnar.

“Mae’n rhywbeth fydden i wedi hoffi gwneud pan oeddwn i ‘chydig yn ieuengach – dw i’n sicr yn difaru peidio dysgu mwy o Gymraeg, gan mai honno yw ein hiaith frodorol ni,” meddai Coleman.

“Mae dysgu iaith hefyd yn dda i’ch hyder chi, pan ‘dych chi’n dod i gyswllt â phobol wahanol.”

Brawd a chwaer


Y brawd a'r chwaer gyda'i gilydd yn y lansiad
Un o’r chwaraewyr oedd yn awyddus i gefnogi’r prosiect oedd Joe Allen – ac roedd yn gyfle hefyd iddo gydweithio â’i chwaer, Kate Allen, oedd wedi helpu datblygu’r adnodd.

“Mae’n rhywbeth pwysig iawn i fi yn bersonol,” meddai chwaraewr canol cae Lerpwl, gafodd addysg Gymraeg yn Ysgol Y Preseli.

“O ran y pêl-droed dw i ‘di cael y siawns i chwarae gyda llawer o chwaraewyr o lawer o wledydd gwahanol, felly mae siawns i siarad gwahanol ieithoedd yn bwysig iawn ac mae’n gallu bod yn help.

“Hefyd gyda’r Ewros yn dod lan, mae llawer o bobol ifanc yn edrych ymlaen at hwnna.

“Y peth sydd yn help o ran ysgolion yw dechrau’n gynnar, dw i’n meddwl bod hynny’n gwneud llawer o wahaniaeth.”

Stori: Iolo Cheung