Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i deiars ambiwlans gael eu difrodi gan olygu nad oedd y cerbyd yn gallu mynd ar y ffordd am rai oriau.

Yn ôl yr heddlu, cafodd dau deiar ambiwlans oedd wedi’i barcio y tu allan i adran frys Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, eu difrodi rhywbryd rhwng 1 a 2:50 prynhawn dydd Llun.

Roedd hyn wedi golygu nad oedd yr ambiwlans yn gallu cael ei yrru tan tua 6 o’r gloch y noson hynny.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a allai helpu â’i ymchwiliad i ffonio Heddlu Llanelli ar 101.