Sam Vokes
Mae chwaraewyr Cymru wedi cyfaddef bod rhywfaint o bryderon ynglŷn â diogelwch yn Ewro 2016 yn dilyn yr ymosodiadau diweddaraf ym Mrwsel.

Bellach mae o leiaf 34 o bobol wedi’u lladd a bron i 200 wedi’u hanafu ym mhrifddinas Gwlad Belg, ac mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi disgrifio’r ymosodiadau fel rhai “arswydus”.

Dim ond pedwar mis sydd ers y gyflafan ym Mharis pan laddwyd 130 o bobol, a chyda disgwyl miloedd o Gymry i deithio i Ffrainc yn yr haf mae hynny wedi cynyddu pryderon ynglŷn â Phencampwriaethau Ewrop.

Ac mae ymosodwr Cymru Sam Vokes yn cyfaddef fod y mater wedi bod ar feddwl y chwaraewyr.

“Mae’n effeithio arnom ni i gyd. Mae’n rhywbeth trychinebus a does neb eisiau ei weld yn digwydd,” meddai blaenwr Burnley.

“Fel chwaraewyr mae’n rhaid i ni jyst wneud ein job, a rhoi ein ffydd yn y Gymdeithas [Bêl-droed] i sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynyddu [erbyn y gystadleuaeth].”

‘Bywyd yn nwylo rhywun arall’

Roedd y  Stade de France yn un o’r lleoliadau gafodd ei dargedu ym Mharis ym mis Tachwedd, ac fe gyfaddefodd y chwaraewr canol cae Joe Ledley fod yr ymosodiadau diweddaraf wedi gwneud pobol yn nerfus.

“Mae’n gystadleuaeth fawr, felly mae diogelwch yn gorfod dod gyntaf,” meddai Ledley.

“Dyw’ch bywyd chi ddim yn eich dwylo eich hun, mae e yn nwylo rhywun arall. Ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y gemau allan yna a pheidio poeni gormod amdano fe.”

Mynnodd fodd bynnag nad oedd unrhyw deimlad ymysg y garfan y dylid gohirio neu ganslo’r gystadleuaeth yn sgil y bygythiad brawychol.

“Yn sicr ddim, mae’n gystadleuaeth wych ac fe fydd pobol ar draws y byd yn gwylio,” meddai.

“Mae angen i ni barhau i chwarae, ac aros yn gryf.”

Stori: Iolo Cheung