Wrth i’r ymgyrch ‘Cymru’n Gryfach yn Ewrop’ gael ei lansio’n swyddogol heddiw, mae Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghori wedi dweud mai “Cymru yw’r rhan sy’n manteisio fwya’” o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i Geraint Talfan Davies gyflwyno’r achos mewn lansiad yng Nghaerdydd heddiw, gan ddweud fod Cymru’n cael “mwy yn ôl nag ydyn ni’n rhoi i mewn.”

Fe fydd hefyd yn cyfeirio at achos ‘Prydain yn Gryfach yn Ewrop’, cyn ychwanegu “bod yr holl ddadleuon ddwywaith yn gryfach i Gymru.”

Dywedodd y byddai gadael y farchnad sengl yn “risg” ac yn “ychwanegu at y sialensiau economaidd sy’n wynebu Cymru’n barod.”

‘Cred angerddol’

 

“Mae gennym lai na 100 diwrnod i drosglwyddo’r neges honno i bob stryd yng Nghymru – gadewch inni fynd allan yno a gwneud yn siŵr y bydd Cymru’n parhau yn rhan o’r teulu Ewropeaidd ehangach,” meddai.

“Ond, mae’r ymgyrch hefyd tros galonnau, yn ogystal â phennau. Mae am y gred angerddol ein bod yng Nghrymu, pan rydyn ni’n wynebu problemau, yn eu hwynebu nhw ysgwydd wrth ysgwydd â’n cymdogion.”

Addysg

Un arall fydd yn rhan o’r lansiad yw Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Fflur Elin, fydd yn cyfeirio at fanteision aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd i addysg uwch a phellach yng Nghymru.

“Ychydig ddyddiau cyn imi gymryd y rôl fel Llywydd, mae penderfyniad yn cael ei wneud gall siapio addysg uwch a phellach am ddegawdau i ddod, gyda’r potensial i roi llawer o werthoedd myfyrwyr mewn perygl.

“Mae Ewrop yn gwneud cyfraniad mawr i sylfaen sgiliau yng Nghymru,” ychwanegodd.