Llys y Goron Caerdydd yn cymryd rhan mewn arbrawf
Fe fydd Llys y Goron Caerdydd ymhlith y cyntaf yng Nghymru a Lloegr i ganiatáu i gamerâu ffilmio sylwadau barnwyr wrth ddedfrydu diffinyddion.

Fel rhan o arbrawf, fe fydd wyth o lysoedd yn dechrau ffilmio yn ystod yr wythnosau i ddod.

Ni fydd y sylwadau gan farnwyr yn cael eu darlledu, ond fe allai’r arbrawf arwain at hynny yn y pen draw.

Hyd yma, dim ond y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys sydd wedi caniatáu ffilmio.

Y llysoedd eraill lle bydd yr arbrawf yn cael ei gynnal yw’r Old Bailey, Southwark, Manceinion, Birmingham, Bryste, Lerpwl a Leeds.

Wrth gyhoeddi’r arbrawf, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Shailesh Vara: “Fy ngobaith yw y bydd hyn yn arwain at fod yn fwy agored a thryloyw o ran yr hyn sy’n digwydd yn ein llysoedd.

Dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd: “Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd y bydd y cynllun peilot hwn yn mynd rhagddo a byddaf yn cydweithio â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i asesu effaith camerâu yn y llys.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi pwysleisio y bydd pobol sydd wedi dioddef yn sgil troseddau’n parhau i gael cefnogaeth briodol.

Dim ond y barnwr fydd yn ymddangos ar gamera.

Mae ffilmio achosion llys yn anghyfreithlon, ac fe all arwain at ddedfryd am ddirmygu’r llys.

Mae’r Llys Apêl wedi caniatáu ffilmio ers 2013 yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan ddarlledwyr.