Cymru 67–14 Yr Eidal

Gorffennodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad mewn steil brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth gyfforddus dros yr Eidal yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Yn dilyn siom Twickenham yr wythnos diwethaf, llwyr reolodd Cymru yn erbyn yr Eidalwyr ar ddiwrnod olaf y bencampwriaeth gan groesi am naw cais mewn buddugoliaeth swmpus.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Cymru’n dda ac roeddynt ar y blaen diolch i gais cynnar Rhys Webb wedi pum munud. Roedd elfen o lwc yn perthyn i’r cais serch hynny gan fod Cymru’n camsefyll yn y symudiad a arweiniodd at y lein bump, a arweiniodd yn ei thro at gais i’r mewnwr.

Llwyddodd Dan Biggar gyda’r trosiad cyn ychwanegu dwy gic gosb i ymestyn y fantais i dri phwynt ar ddeg hanner ffordd trwy’r hanner.

Treuliodd Guglielmo Palazzani ddeg munud yn y gell gosb i’r ymwelwyr am atal cic gosb gyflym a manteisiodd Jamie Roberts wrth groesi o dan y pyst yn dilyn bylchiad Biggar.

Roedd yr Eidal yn ôl at bymtheg dyn ar y cae pan sgoriodd Cymru y trydydd cais, Jonathan Davies yn cwblhau gwrthymosodiad gwych o gysgod pyst eu hunain, 27-0 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Dechreuodd Cymru ar dân wedi’r egwyl hefyd gyda Jamie Roberts yn croesi wedi cyfnod hir o bywso amyneddgar.

Cais unigol gwych gan George North oedd pumed y Cochion, yr asgellwr yn rhwygo trwy ganol amddiffyn yr Azzurri i sgorio o dan y pyst.

Cafodd yr Eidal eu cyfnod gorau wedi hynny yn sgorio dau gais mewn deg munud, un i Palazzani wedi sgarmes symudol ac un i Gonzalo Garcia wedi dadlwythiad crefftus Tomasso Allan.

Yn anffodus i’r Eidal, croesodd Liam Williams am chweched cais Cymru rhwng y ddau gais hynny, yn gorffen yn dda wedi dwylo da Jonathan Davies.

Roedd yr ymwelwyr ar chwâl erbyn hyn a chroesodd Cymru am dri chais arall yn y chwarter awr olaf. Daeth dau o’r rheiny i Ross Moriarty, a wnaeth gryn argraff ar ôl dod i’r cae fel eilydd am Justin Tipuric yn gynnar yn y gêm.

Eilydd arall a sgoriodd yr olaf, Gareth Davies yn sgorio o dan y pyst wrth i Gymru orffen mewn steil.

Mae’r canlyniad yn sicrhau y bydd Cymru yn gorffen Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn yr ail safle, y tu ôl i’r pencampwyr, Lloegr.

.

Cymru

Ceisiau: Rhys Webb 5’, Dan Biggar 29’, Jonathan Davies 33’, Jamie Roberts 45’, George North 49’, Liam Williams 57’, Ross Moriarty 65’, 79’, Gareth Davies 80’

Trosiadau: Dan Biggar 5’, 30’, 33’, 50’, 59’, Rhys Priestland 67’, 80’, 80’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 15’, 21’

.

Yr Eidal

Ceisiau: Guglielmo Palazzani 54’, Gonzalo Garcia 62’

Trosiadau: Kelly Haimona 55’, 63’

Cerdyn Melyn: Guglielmo Palazzani 19’