Fydd dau ddyn a oedd wedi’u cyhuddo o achosi creulondeb i blant mewn uned addysgol yn Y Felinheli, ddim yn gorfod sefyll eu prawf, wedi i’r cyhuddiadau yn eu herbyn gael eu gollwng yn hwyr brynhawn ddoe.

Roedd cyfanswm o 50 o gyhuddiadau wedi’u gwneud yn erbyn Garry Vaughan Roberts a Sion Bedwyr Evans a’r rheiny’n ymwneud â’u gwaith yng nghanolfan Bryn Ffynnon rhwng Medi 2006 a Mawrth 2014. Roedd yr achos yn eu herbyn i fod i ddechrau ym mis Hydref eleni.

Ond mewn datganiad ddoe (dydd Gwener) fe gadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddai’r achos yn mynd yn ei flaen.

“Ym mis Ionawr fe ddaeth gwybodaeth newydd ac ychwanegol i law gan yr heddlu,” meddai datganiad y CPS.

“Ar ôl adolygu’r wybodaeth yma’n ofalus, fe ddaethon ni i’r casgliad nad oedd tystiolaeth ddigonol i gynnig cyfle o euogfarn yn erbyn y diffinyddion. Mae’r penderfyniad felly wedi ei wneud i atal yr achos, ac rydym wedi ysgrifennu at y llys i gadarnhau na fydd yr erlyniad yn cynnig unrhyw dystiolaeth yn erbyn y ddau ddiffynnydd.

“Mae erlynwyr yn adolygu bob achos yn unol â’r canllawiau i erlynwyr y Goron,” meddai’r datganiad wedyn. “ac mae’r adolygiad yn ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau wrth i’r achos ddatblygu, gan gynnwys dadl yr amddiffyniad.”

Fe gafodd Canolfan Bryn Ffynnon ei chau yn 2014.