Mae elusen wedi sefydlu rhaglen ymchwil gwerth £10 miliwn i ganfod pam mae oedolion ag awtistiaeth yn marw’n degawdau’n gynharach na phobol eraill.

Daw’r ymchwil gan yr elusen Autistica, yn dilyn astudiaeth yn Sweden a ddadansoddodd 27,000 o bobol ag awtistiaeth a’u cymharu â bron i dair miliwn o bobol heb y clefyd.

Yn ôl yr astudiaeth, ar gyfartaledd, roedd oedolion ag awtistiaeth yn marw 16 mlynedd yn ifancach nag aelodau eraill o’r cyhoedd.

Roedd y sawl oedd yn dioddef o anabledd dysgu hefyd yn marw’n 30 mlynedd yn ifancach, yn 39 oed ar gyfartaledd.

Roedd hyd yn oed unigolion ag awtistiaeth oedd â lleferydd a sgiliau iaith da dwbl yn fwy tebygol o farw’n ifanc.

Yr astudiaeth

Yn yr astudiaeth, epilepsi a hunanladdiad oedd y ddau prif achos dros farwolaethau ifanc ymhlith pobol ag awtisiaeth.

Mae rhwng 20% a 40% o bobol ag awtisiaeth yn datblygu epilepsi, o gymharu â 1% o’r boblogaeth gyffredinol, ond dydy arbenigwyr ddim yn gwybod pam bod pobol â’r clefyd yn marw’n gynnar.

Roedd y gwaith ymchwil yn dangos bod pobol ag awtistiaeth ond sydd heb anabledd dysgu naw gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain.

“Mae’r anghydraddoldeb i bobol ag awtisiaeth sy’n cael ei ddangos yn y data hwn yn warthus,” meddai prif weithredwr Autistica, Jon Spiers.

“Allwn ni ddim derbyn sefyllfa lle fydd llawer o bobol ag awtistiaeth byth yn gweld eu pen-blwydd yn 40 oed.”

Codi £10m

Mae’r elusen yn gobeithio codi £10 miliwn dros y pum mlynedd nesaf i ariannu’r ymchwil ar farwolaethau ymhlith pobol a’r clefyd.

Mae awtistiawth yn anabledd sy’n effeithio ar tua 1% o’r boblogaeth sy’n amharu ar allu rhywun i gyfathrebu a chysylltu â phobol eraill.

Fel cyflwr sydd ar “sbectrwm”, mae’n effeithio ar bobol mewn ffyrdd gwahanol a gall symptomau amrywio o fod yn rhai mwyn i rai difrifol iawn.

Dyw chwarter y dioddefwyr ddim yn siarad o gwbl neu ond ychydig, bydd 15% byth yn gweithio llawn amser ac mae gan bron i 75% o leiaf un cyflwr iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â’r clefyd.

Mae’n debyg bod y clefyd yn costio’r DU £32 biliwn y flwyddyn, y cyflwr meddygol drutaf, oherwydd yr angen am ofal oes.

Mae Autistica wedi lansio ymgyrch yn galw am ragor o ymchwil i fynd i’r afael â marwolaethau ifanc ymhlith dioddefwyr. Bydd deiseb ar y mater yn cael ei hanfon i Lywodraeth y DU yn ddiweddarach yn y gwanwyn.