Andrew RT Davies
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi addo troi Cymru o goch i las heddiw wrth iddo lansio maniffesto’r blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai.

Dywedodd Andrew RT Davies mai ei blaid ef all warantu newid, a’i bod hi’n amser gwneud hynny ar ôl “17 mlynedd trychinebus” o Lywodraeth Llafur.

Mae prif addewidion y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys:

–        Amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd a gwario mwy arno yn flynyddol;

–        Creu mwy o swyddi drwy gefnogi busnesau bach a gwella isadeiledd;

–        Darparu rhagoriaeth mewn addysg drwy  drawsnewid hyfforddiant athrawon a sicrhau mwy o arian i’r ystafell ddosbarth;

–        Darparu diogelwch ac urddas i bobl hŷn gan osod cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedau’r rhai mewn gofal preswyl;

–         Treblu gofal plant am ddim i 30 awr yr wythnos.

Meddai Andrew RT Davies:  “Ar ôl 17 mlynedd o fethiant Llafur, mae Cymru angen newid gwirioneddol. Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir i sicrhau’r newid hwnnw – ac rydym yn barod i droi Cymru o goch i las.

“Trwy amddiffyn cyllideb y Gwasanaeth Iechyd, creu mwy o swyddi drwy gefnogi busnesau bach a gwella isadeiledd, a chyflawni rhagoriaeth mewn addysg, yr ydym yn barod i gymryd Cymru ar lwybr newydd.”