David Lloyd George yw'r unig Gymro Cymraeg i fod yn Brif Weinidog Prydain
Mae’r newyddion bod £27,000 wedi cael ei neilltuo am dair blynedd yng Nghyllideb George Osborne i achub Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy wedi cael ei groesawu gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe fu’r blaid yn ymgyrchu ers tro i achub yr amgueddfa ar ôl iddi ddod i’r amlwg y gallai hi golli arian gan Gyngor Gwynedd ar gyfer 2016-17, ac roedden nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i’w thynnu o dan adain Amgueddfa Cymru.

Daeth cyhoeddiad gan Gyngor Gwynedd fis diwethaf na fydden nhw’n gwneud penderfyniad tan 2017.

Un o’r rhai oedd yn cefnogi’r ymgyrch oedd ŵyr David Lloyd George, yr Iarll Lloyd-George o Ddwyfor.

Fis diwethaf, cafodd datganiad ei gyflwyno gan William Powell ac Aled Roberts yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor heddiw, dywedodd William Powell: “Rwy wrth fy modd fod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y galwadau gan fy mhlaid i achub yr amgueddfa bwysig hon ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Byddai’n drasiedi pe bai’r amgueddfa ar gyfer yr unig Gymro Cymraeg i fod yn Brif Weinidog wedi cael ei cholli.

“Roedd hi’n ymddangos bod gan Gyngor Gwynedd o dan arweiniad Plaid Cymru fawr o ddiddordeb mewn sicrhau dyfodol tymor hir yr amgueddfa.

“Fe fu’n atyniad gwych i dwristiaid ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cynnig hwb sylweddol i’r economi leol ac roedd hi’n amlwg i fi fod angen iddi aros ar agor.

“Mi fydd hi’n bwysig, wrth gwrs, i sicrhau bod ffynhonnell sefydlog o arian ar gael ar gyfer y blynyddoedd y tu hwnt i 2020, ond mae gwybod fod dyfodol yr amgueddfa wedi’i ddiogelu am y tro yn fuddugoliaeth go iawn.”