Mae Ceredigion wedi dod i’r brig yng Nghymru o ran pa mor gyson y mae ei thrigolion yn trydar.

A dim ond pobol Kingston upon Thames ac Ucheldir yr Alban sydd yn anfon mwy o negeseuon Twitter na’r rheiny o ganolbarth Cymru, yn ôl astudiaeth gan gwmni marchnata digidol Jellyfish.

Cafodd y gyfradd trydar ei gyfrifo wrth rannu nifer y negeseuon Twitter oedd â geiriau cyffredin gyda maint poblogaeth y sir.

Ond dim ond negeseuon Saesneg gafodd eu cynnwys yn yr astudiaeth, gan olygu bod tebygolrwydd cryf y byddai’r gyfradd wedi bod hyd yn oed yn uwch mewn ardaloedd â llawer o siaradwyr Cymraeg.

Gogledd orllewin ar ei hôl hi

Ceredigion oedd yr unig ardal o Gymru gyrhaeddodd y deg uchaf ym Mhrydain, gyda chyfradd trydar o 54.34 oedd fymryn yn llai nag Ucheldir yr Alban ond yn sylweddol is na’r 94.14 yn Kingston upon Thames.

Caerdydd oedd yr ardal o Gymru oedd ail uchaf, gyda chyfradd trydar o ddim ond 16.65, tra bod Abertawe, Powys a Bro Morgannwg hefyd yn y pump uchaf.

Ond mae’n ymddangos nad yw pobol gogledd orllewin Cymru’n treulio cymaint o’u hamser ar Twitter, gyda’r gyfradd isaf o 4.08 i’w canfod yng Ngwynedd a’r ail isaf, 4.27, ym Môn.

“Mae’n grêt gweld pa mor boblogaidd yw Twitter ar draws Prydain, mewn ardaloedd dinesig yn ogystal â gwledig,” meddai Hannah Rainford, uwch-reolwr cymdeithasol gyda Jellyfish.