Ni fydd Alun Wyn Jones (canol) a Sam Warburton (dde) yn wynebu'r Eidal oherwydd anafiadau (llun: URC)
Mae Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid i dîm Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Eidal yn eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn, gan adael allan Sam Warburton ac Alun Wyn Jones.

Mae gan Alun Wyn anaf i’w sawdl, tra bod y tîm meddygol wedi penderfynu peidio â rhuthro Warburton nôl ar ôl iddo gael clec i’w ben.

Bydd Luke Charteris, Justin Tipuric a Rhys Webb i gyd yn dechrau ar ôl creu argraff wrth ddod oddi ar y fainc yn y golled o 25-21 yn erbyn Lloegr penwythnos diwethaf.

Mae Hallam Amos hefyd wedi cael ei enwi yn y tîm, gan gymryd lle Alex Cuthbert sydd ag anaf i’w droed ar yr asgell.

Lydiate yn gapten

Fe fydd Gareth Davies yn symud i’r fainc i wneud lle i Webb, wrth i Dan Lydiate gael ei ddewis yn gapten ar y tîm ar gyfer y gêm.

Mae Gethin Jenkins hefyd yn dychwelyd i’r fainc ar ôl gwella o anaf, gan gymryd lle Paul James, gyda Jake Ball a Ross Moriarty hefyd ymysg yr eilyddion.

Ar y fainc hefyd y mae Tomas Francis, er ei fod yn wynebu camau disgyblu ar hyn o bryd ar ôl digwyddiad yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr ar ôl iddo fyseddu llygad Dan Cole.

Mae’r Saeson eisoes wedi ennill y bencampwriaeth, gan olygu mai brwydro am yr ail safle y bydd Cymru ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth.

Cyfle i ‘wneud yn iawn’

Bydd cefnogwyr y crysau cochion yn disgwyl buddugoliaeth gymharol gyfforddus yn erbyn yr Eidalwyr, sydd wedi colli pob un o’u gemau hyd yn hyn eleni, ac yn ôl yr hyfforddwr Warren Gatland mae’n gyfle i orffen y gystadleuaeth mewn steil.

“Roedden ni i gyd yn siomedig gyda wythnos diwethaf, yn enwedig gyda’r hanner cyntaf, ond fe fyddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn golygu ein bod ni’n gorffen yn ail ac mae’n rhaid i ni anelu am hynny nawr,” meddai.

“Mae’n dda gweld Rhys [Webb] nôl yn dechrau, mae’n gyfle da iddo fe. Mae dydd Sadwrn yn gyfle i ambell un o’r chwaraewyr wneud yn iawn am eu camgymeriadau ac rydyn ni’n edrych am berfformiad mawr.

“Rydw i wedi gweld Dan [Lydiate] yn gapten ar dimau canol wythnos ac fe neidiodd e ar y cyfle’r penwythnos yma, felly fe fydd hi’n dda gweld sut aiff hi.”

Tîm Cymru v Yr Eidal:

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Hallam Amos; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee; Bradley Davies, Luke Charteris; Dan Lydiate (capt), Justin Tipuric, Taulupe Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Tomas Francis, Jake Ball, Ross Moriarty, Gareth Davies, Rhys Priestland, Gareth Anscombe