Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud fod angen “ymrwymiad cadarn, hirbarhaol” i ariannu Cymru yn y dyfodol, gan alw am gorff annibynnol i fynd i’r afael â hynny.

Yn ôl y Pwyllgor Cyllid, mae angen i’r arian y mae Cymru’n ei gael gan Lywodraeth y DU – y grant bloc – gael ei benderfynu’n derfynol cyn i bwerau codi refeniw drwy drethiant gael eu datganoli.

Un o’u hargymhellion eraill yw sefydlu corff annibynnol i gynghori ar system dryloyw i ddyrannu cyllid. Byddai’r corff hefyd yn cynnal asesiadau ar sut y caiff penderfyniadau gwariant ar gyfer Lloegr eu bwydo i’r grantiau bloc.

Yn ogystal, mae’r pwyllgor wedi galw am welliant yn nhrefniadau rhynglywodraethol rhwng Cymru a San Steffan, “er mwyn sicrhau addasiad gorau posibl ac mewn pryd o’r grant bloc i Gymru”.

 ‘Asgwrn y gynnen’

“Bu’n amlwg i ni fel Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn ac ymchwiliadau yn y gorffennol nad oedd y berthynas rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gweithio fel y dylai, ac mae angen mynd i’r afael â hyn,” meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Mae’r mater o gyllid ar gyfer Cymru wedi bod yn asgwrn y gynnen ers sefydlu Fformiwla Barnett, y bu amheuaeth yn ei gylch ers peth amser bellach,” meddai.

Fe esboniodd fod y cytundeb dros derfyn ariannu isaf rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dod i ben yn 2020.

Am hynny, “rydym o’r farn ei bod yn hollbwysig bod unrhyw gytundeb ynghylch cyllid ar gyfer Cymru yn cael ei roi ar frig yr agenda.”

‘Corff annibynnol’

Fe ddywedodd yr economegydd Gerald Holtham fod adroddiad a wnaed yn 2010 yn galw am “fformiwla seiliedig ar anghenion ar gyfer Cymru bryd hynny, ac ailadroddwn y galwadau hynny chwe blynedd yn ddiweddarach.

“Mae’n amlwg, gyda’r newidiadau i ddatganoli cyllidol, fod yr angen am gorff annibynnol i bennu hawliau grantiau bloc ac i ddyfarnu mewn anghydfodau yn bwysicach nag erioed.”