Lloegr 25–21 Cymru

Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ben wedi iddynt golli yn erbyn Lloegr yn Twickenham brynhawn Sadwrn.

Rheolodd y Saeson am ran helaeth o’r gêm ac er i Gymru frwydro nôl o fewn pedwar pwynt gyda dau gais hwyr roedd y tîm cartref wedi gwneud digon i drechu’r Cochion.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Lloegr ar dân a bu bron i Ben Youngs a Dan Cole dirio yn y chwarter awr agoriadol, ond cafodd ymdrechion y ddau eu gwrthod gan y dyfarnwr fideo.

Chwe phwynt o droed Owen Farrell yn hytrach oedd unig bwyntiau’r tîm cartref yn y chwarter cyntaf er gwaethaf eu goruchafiaeth.

Ychwanegodd y maswr drydedd cic gosb yn fuan wedyn cyn i’r cais cyntaf ddod wyth munud cyn yr egwyl, Anthony Watson yn sgorio ar yr asgell chwith yn dilyn bylchiad gwreiddiol un o’r chwaraewyr gorau ar y cae, Maro Itoje.

Ymestynnodd trosiad Farrell fantais ei dîm i un pwynt ar bymtheg ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Ail Hanner

Roedd Cymru fymryn yn well wedi troi ond Lloegr a gafodd y pwyntiau cyntaf serch hynny wrth i Farrell ymestyn y fantais ym mhellach gyda chic gosb arall.

Daeth pwyntiau cyntaf Cymru wedi hynny, trosgais o ddim byd braidd i Dan Biggar, yn taro cic George Ford i lawr cyn sgorio o dan y pyst a throsi ei gais ei hun.

Llwyddodd Farrell gyda dau gynnig arall at y pyst wedi hynny ac roedd Lloegr ddeunaw pwynt ar y blaen gyda llai na deg munud o’r wyth deg ar ôl.

Gorffennodd Lloegr y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg, gyda Dan Cole yn y gell gosb am droseddu cyson yn y sgrym, a rhoddodd hynny lygedyn o obaith i Gymru.

Croesodd George North am gais wedi dadlwythiad gwych Liam Williams i Jonathan Davies ac roedd yr ymwelwyr yn ôl o fewn dwy sgôr wedi trosiad yr eilydd, Rhys Priestland.

Yn debyg iawn i gêm Iwerddon, roedd mwy o ddychymyg ac antur yn perthyn i chwarae Cymru gyda Priestland ar y cae yn llywio’r chwarae o safle’r maswr.

Arweiniodd yr antur hwnnw at gais drydydd cais pan groesodd Taulupe Faletau ac roedd Cymru o fewn pedwar pwynt gyda dau funud i fynd yn dilyn trosiad llwyddiannus arall gan Priestland.

Fe ddaeth un cyfle hwyr i’w hennill hi hefyd ond roedd troed North dros yr ystlys cyn iddo ryddhau Rhys Webb.

Digon o gyffro yn y diwedd felly ond canlyniad teg wrth i Loegr wneud digon i gipio’r Goron Driphlyg. Dim ond Ffrainc all eu hatal bellach rhag ennill y Bencampwriaeth a chwblhau Camp Lawn hefyd.

.

Lloegr

Cais: Anthony Watson 32’

Trosiad: Owen Farrell 33’

Ciciau Cosb: Owen Farrell 10’, 17’, 21’, 46’, 66’, 68’

Cerdyn Melyn: Dan Cole 72’

.

Cymru

Ceisiau: Dan Biggar 54’, George North 74’, Taulupe Faletau 77’

Trosiadau: Dan Biggar 54’, Rhys Priestland 75’, 78’