David Cameron yn mwytho oen bach yn ystod ei ymweliad (llun: Richard Stonehouse/PA)
Fe fu David Cameron yn ymweld ag ŵyn ar fferm Gymreig heddiw wrth iddo rybuddio am yr effaith ar amaeth petai Prydain yn gadael Ewrop.

Roedd y Prif Weinidog yn ymweld â’r fferm yn Sir Ddinbych cyn ei araith yfory i gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llangollen.

Fe rybuddiodd y gallai ffermwyr golli hyd at £330m o arian allforion cig oen a chig eidion yn unig petai’r wlad yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Ond mae neges Cameron yn gwbl groes i ddymuniad arweinydd y Torïaid yng Nghymru, Andrew RT Davies, sydd wedi dweud nad yw eisiau parhau i fod yn rhan o’r undeb.

‘Marchnad o 500miliwn’

Cafodd Cameron gyfarfod â rhai o’r ŵyn bach ar fferm y brodyr Richard a David Williams, sydd yn berchen ar dros 1,000 acer o dir yn Nyffryn Dyfrdwy a mynyddoedd y Berwyn.

Dywedodd fod yr ŵyn bach yn edrych yn “dda iawn” wrth iddo afael yn un ohonyn nhw ar fferm Tyfos yn Llandrillo ger Corwen.

“Mae ffermwyr yn wynebu biwrocratiaeth, archwiliadau, y system taliadau ac mae’n bwysig ein bod ni’n delio â’r materion hynny,” meddai’r Prif Weinidog.

“Ond mae mater mwy na hynny yn y fantol sef bod gennym ni farchnad o 500 miliwn o bobol y gallwn ni werthu ein cig iddyn nhw.”

Bu David Cameron hefyd yn siarad â Meinir Howells o raglen Ffermio am sefyllfa Ewrop yn ystod ei ymweliad, ac fe fydd y sgwrs i’w gweld ar S4C nos Lun 14 Mawrth am 9.30yh.