Llifogydd ar yr A55 ger Tal-y-bont
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn ychwanegol yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf i reoli’r perygl o lifogydd.

Daw hyn cyn i’r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru  ar gyfer 2016-17 heddiw, sef ‘Cymru Decach, Cymru Well – Buddsoddi yn y Dyfodol’.

Fe fydd yr arian o gyllid canlyniadol Llywodraeth Prydain yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau a gwelliannau yng Nghonwy, Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot a Sir Ddinbych.

“Mae’r llifogydd yn ystod y gaeaf diwethaf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd parhau i fuddsoddi i reoli’r perygl ledled Cymru,” meddai’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.

Cyfeiriodd fod y buddsoddiad yn ategu’r gwaith lliniaru llifogydd yn Nhal-y-bont a’r gwaith o wella’r draenio ar yr A55.

‘Seilwaith amddiffyn’
Fe ddywedodd y Gweinidog Cyllid fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi lleihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i fwy na 12,000 o eiddo hyd yma, gan gynnwys dros 10, 700 o gartrefi.

“Mae buddsoddi yn y seilwaith amddiffyn rhag llifogydd a sicrhau bod ein cymunedau yn fwy diogel rhag llifogydd yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon,” meddai Jane Hutt y Gweinidog Cyllid.

‘Rheoli ariannol gofalus’

Yn rhan o gynlluniau gwariant y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae buddsoddiad ychwanegol o fwy na £300 miliwn i’r GIG yng Nghymru.

“Rydym wedi cadw at ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau.  Drwy reoli ariannol gofalus, rydym wedi gallu diogelu’r gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf i bobl Cymru,” meddai Jane Hutt gan gyfeirio fod Cyllideb Cymru wedi ei lleihau 8% mewn termau real dros bum mlynedd.
“Rydym yn parhau i fuddsoddi mwy nag erioed yn y maes iechyd ac yn diogelu amrywiol wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, cyllido ysgolion, prentisiaethau ac Addysg Bellach dros y flwyddyn ariannol nesaf.

“Mae’n Gyllideb sy’n parhau i fuddsoddi yn ein blaenoriaethau i Gymru a’i dyfodol.”