Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi elw o £592,837 ar gyfer 2015, o’i gymharu â cholledion gwerth £87,030 y flwyddyn gynt.

Dywed y clwb fod gwerthiant tocynnau ar gyfer gemau rhyngwladol, incwm ar ddiwrnodau nad oes gemau a’r lefelau uchaf erioed o nawdd wedi cyfrannu at yr elw.

Cynhaliodd stadiwm y Swalec SSE yng Nghaerdydd brawf cyntaf Cyfres y Lludw rhwng Lloegr ac Awstralia ym mis Gorffennaf, a gêm ugain pelawd rhwng y ddwy wlad ddiwedd mis Awst.

Cafodd y cytundeb gyda Chyngor Caerdydd a chredydwyr i ddileu 70% o ddyledion y clwb, oedd yn cyfateb i ryw £11.5 miliwn, ei gwblhau ym mis Rhagfyr.

‘Carreg filltir’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Rydym yn falch o’r canlyniadau ariannol hyn sy’n adlewyrchu’r gwaith caled a wnaed wrth gynnal prawf cyntaf Investec y Lludw, gan yrru refeniw graddol ar draws y busnes a disgyblaeth dda ynghylch rheoli costau’r clwb.

“Fodd bynnag, rhaid i ni gydnabod na fyddwn yn ailadrodd ein rhaglen o gemau mawr yn 2015 yn ystod 2016 a fydd, ynghyd â’r angen parhaus i fuddsoddi yn ein lleoliad, ein tîm proffesiynol a’n prosiectau cymunedol, yn arwain at elw llawer llai.”

Ychwanegodd Trysorydd y clwb, Hamish Buckland: “Mae cwblhau ailstrwythuro’r clwb yn ariannol yn garreg filltir i’r Clwb.

“Fe fu’n daith heriol o ddyddiau anodd 2011, ond bellach mae gennym seiliau ariannol cadarn i symud ymlaen.

“Mae angen gwneud tipyn o waith o hyd er mwyn gwella perfformiadau ariannol mewn marchnad anodd a heriol, ond mae’r seiliau wedi’u hadeiladu.”

Tymor 2016

Bydd y seiliau hynny’n allweddol i Glwb Criced Morgannwg wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer tymor 2016, sy’n dechrau ar Ebrill 11.

Bydd Lloegr yn herio Sri Lanca a Phacistan mewn gemau undydd y tymor hwn, ac fe fydd Simply Red yn cynnal cyngerdd yn stadiwm y Swalec SSE ym mis Gorffennaf.

Ychwanegodd Hugh Morris: “Mae cynnal digwyddiadau cerddorol, llwyddiant parhaus ein busnes arlwyo a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn a thwf ein haelodaeth a’n cefnogaeth i’r criced yn hanfodol os ydyn ni am aros ar y trywydd cywir dros y blynyddoedd i ddod.

“Yn bennaf oll, clwb criced ydyn ni ac rydym yn parhau i ddibynnu ar gefnogaeth ein haelodau a phrynwyr tocynnau sy’n hollol hanfodol i ni.

“Rydym wedi ychwanegu at ein carfan yn ystod y gaeaf ac mae gennym Brif Hyfforddwr newydd, Robert Croft sy’n benderfynol o adeiladu ar y cynnydd a wnaethon ni dros y tymhorau diwethaf.

“Dylai hynny fod yn ddeniadol ac yn gyffrous i gefnogwyr Morgannwg ac rydym yn edrych ymlaen at y tymor newydd gydag optimistiaeth sylweddol.”