Cafodd Edward Thomas ei arestio yn llyfrgell y brifysgol
Mae myfyriwr 21 oed o Crewe wedi cael dedfryd o garchar gohiriedig am fynd â dryll ffug i gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Clywodd ynadon fod Edward Thomas yn cario’r dryll ffug yn ei fag ar gampws Ysgol Fusnes y brifysgol fis Tachwedd diwethaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i lyfrgell y campws, lle cafodd ei arestio.

Plediodd yn euog i fod ag arf ffug yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Cafodd ddedfryd o garchar am 16 wythnos wedi ei gohirio am ddwy flynedd, ac fe fydd yn destun cyrffyw am 12 wythnos.

Dywedodd yr ynad fod rhaid bod Thomas wedi sylweddoli y byddai ei ymddygiad “wedi achosi pryder ac ofn”.