Fe fydd Aelod Seneddol o Gymru yn cynnal trafodaeth yn San Steffan heddiw i alw am ddatganoli pwerau dros wyliau’r Banc i Gymru.

Gobaith AS Ceredigion Mark Williams yw gweld y Cynulliad yn cael y pŵer i benodi Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cenedlaethol yn y dyfodol os yw’n dymuno.

Mae’r syniad wedi codi sawl gwaith yn y gorffennol, gyda Mark Williams yn honni bod Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol Cymru ar y pryd, David Jones, wedi atal ymgais i geisio cyflwyno’r newid yn 2013.

Ond fe ddywedodd y Democrat Rhyddfrydol ei fod yn awyddus i weld y diwrnod yn dod yn wyliau cenedlaethol, ac y gallai Cymru ddefnyddio Dydd Gŵyl Dewi i elwa’n fawr o dwristiaeth.

Cyfnewid am ŵyl banc arall?

Fe fydd Mark Williams yn trafod y syniad mewn Cynnig Deg Munud yn y Senedd heddiw, ond hyd yn oed os na fydd ei Fesur e’n mynd llawer pellach mae’n gobeithio y gallai’r cynnig gael ei atgyfodi fel rhan o’r drafodaeth ar Fesur Drafft Cymru.

“Dw i jyst yn meddwl ei fod yn rhywbeth sydd yn cydnabod hunaniaeth genedlaethol, ac fe ddylai’r pŵer orwedd gyda’r Cynulliad,” meddai’r Aelod Seneddol wrth golwg360.

“Mae’r pedair plaid wedi galw am hynny, ac fe ddylai’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud yng Nghaerdydd, nid yn San Steffan.

“Yn bersonol dw i o’r farn y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn wyliau cenedlaethol, ond efallai y byddai’r Cynulliad o’r farn y dylai gael ei gyfnewid am ŵyl banc arall.”

Twristiaeth

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes bwerau dros wyliau banc, gyda Dydd Sant Andreas a Dydd Sant Padrig yn wyliau cenedlaethol yno.

Yn ôl Mark Williams, fydd yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn San Steffan i nodi’r achlysur, byddai modd cyflwyno’r diwrnod o wyliau i Gymru er mwyn dod â budd economaidd yn hytrach nag amharu ar ddyddiau gwaith.

“Yn amlwg fe allai rhai elfennau o’r gymuned fusnes bryderu [am ŵyl banc ychwanegol],” meddai.

“Ond dw i’n meddwl y gallen ni wneud mwy i ddilyn yr esiampl Wyddelig, fe allen ni wneud mwy i hyrwyddo Cymru gyda Dydd Gŵyl Dewi drwy’r diwydiant twristiaeth.

“Ac os ddilynwch chi’r esiampl Albanaidd, mae gan gwmnïau a diwydiannau’r dewis o gynnig y diwrnod i ffwrdd i’w gweithwyr ai peidio, felly mae’n bosib y gallai’r Cynulliad edrych ar hynny hefyd.”

‘Ar Lafur mae’r bai’

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Suzy Davies ei bod hithau hefyd o blaid gweld Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru.

Ond fe gyhuddodd y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd o beidio â dangos digon o frwdfrydedd wrth fynd â’r maen i’r wal, er bod y pŵer i gyflwyno’r newid yn parhau i fod gyda llywodraeth ei phlaid hi yn San Steffan.

“Tra bod gwyliau banc yn parhau yn fater sydd wedi’i gadw, fe fyddai Ceidwadwyr Cymru yn gweithio’n adeiladol â Llywodraeth Prydain er mwyn cyflwyno’r newid hwn yng Nghymru,” meddai Suzy Davies.