Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cyflwyno “newidiadau sylweddol” i Fesur Drafft Cymru.

Daw hynny’n dilyn galw am oedi yn y broses o ddatganoli pwerau pellach i Fae Caerdydd yn dilyn pryderon o sawl cyfeiriad, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol.

Dywedodd Stephen Crabb y byddai’n gohirio’r broses o gyflwyno’r mesur nes yr haf, ar ôl etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, er mwyn gwneud y newidiadau.

Fe fydd hynny’n cynnwys adolygu’r rhestr o bwerau fydd yn cael eu ‘cadw nôl’ gan San Steffan, a chael gwared â’r ‘prawf rheidrwydd’ fyddai’n rhaid ei phasio cyn i’r Cynulliad allu deddfu ar gyfreithiau troseddol neu breifat.

Dim refferendwm

Ychwanegodd Stephen Crabb y byddai’n cael gwared â’r angen i gynnal refferendwm cyn datganoli pwerau treth incwm i Gymru.

Dywedodd ei fod am weld Cymru a Lloegr yn parhau’n un uned pan oedd hi’n dod at y gyfraith a’r llysoedd, ond y byddai’n creu grŵp gwaith i ystyried cyfreithiau oedd yn benodol i Gymru.

Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o’r broses o gyflwyno newidiadau i’r Mesur Drafft, meddai.

“Mae’n amlwg i mi fod rhannau o Fesur Drafft Cymru ble mae’n rhaid i ni wneud newidiadau sylweddol,” meddai Ysgrifennydd Cymru.

‘Setliad gwell’

“Mae’r broses craffu cyn-ddeddfwriaethol yma wedi arwain at drafodaeth drylwyr ar y manylion ac rydw i’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Materion Cymreig a Phwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol y Cynulliad, yn ogystal â’r rheiny o gymdeithas sifig, sydd wedi helpu llywio’r penderfyniadau rwyf wedi eu gwneud,” meddai Stephen Crabb.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn helpu i gyflawni’r addewidion a wnes i flwyddyn yn ôl i gyflwyno ‘llawr cyllido’ hanesyddol, datganoli rhagor o bwerau a chael gwared â rheolau biwrocrataidd cyfreithiol a chyfansoddiadol er mwyn creu datganoli cryfach a chliriach i Gymru.

“Rydw i’n ffyddiog y gallwn ni nawr gyflwyno Mesur gwell, a setliad gwell, o ganlyniad.”

‘Setliad parhaol’

Cafwyd croeso i gyhoeddiad Stephen Crabb gan arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, a ddywedodd bod llywodraeth San Steffan “wedi gwrando ar safbwyntiau amrywiol”.

“Rydyn ni wedi parhau i weithio’n agos â llywodraeth Prydain mewn meysydd ble mae modd gwella’r Mesur, fel sydd yn arferol mewn unrhyw broses ddrafft deddfwriaethol,” meddai Andrew RT Davies.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i wneud hynny, fel bod y Mesur hwn yn dod â’r setliad parhaol sydd ei angen ar ein cenedl.”

Refferendwm arall?

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Kirsty Williams ei bod hithau’n croesawu oedi yn y broses wrth i “gamgymeriadau’r gorffennol” gael eu cywiro.

Ond fe fynegodd bryder am awgrym Stephen Crabb y byddai newidiadau i ddatganoli ar y gyfraith yn gorfod wynebu refferendwm.

“Ar gyfer mater mor sylweddol a chymhleth, mae’n ddealladwy fod llywodraeth Prydain eisiau sefydlu grŵp gwaith er mwyn edrych ar newidiadau posib i’r awdurdodaeth gyfreithiol,” meddai Kirsty Williams.

“Ond mae’n absẃrd fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn credu bod angen refferendwm ar y mater yma.

“Ar ôl gwneud y penderfyniad cywir i ddileu’r angen am refferendwm ar bwerau treth incwm, mae’n hurt awgrymu un arall nawr. Y peth olaf mae pobol Cymru eisiau yw refferendwm technegol arall am y cyfansoddiad.”

Colli ASau

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ei bod hi’n croesawu rhai o gyhoeddiadau diweddaraf Stephen Crabb, gan gynnwys am y ‘prawf rheidrwydd’ a’r adolygiad o bwerau ‘i’w cadw’.

Ond mynnodd fod “corff cynyddol o arbenigwyr cyfreithiol, academyddion a gwleidyddion” o blaid gweld Cymru’n cael awdurdodaeth gyfreithiol ei hun, yn wahanol i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Dywedodd hefyd ei bod hi’n bwysicach nac erioed i Gymru gael “cydraddoldeb o ran adnoddau a chyfrifoldebau” o’i gymharu â gwledydd eraill Prydain.

“Wrth i ni nawr wynebu colli 11 o ASau allan o 40, mae hi’n hanfodol fod hyn yn cael ei gydbwyso drwy gryfhau’r Cynulliad Cenedlaethol yn nhermau cyfrifoldebau a chynrychiolaeth,” meddai Leanne Wood.