David Cameron, ar y ffordd i Gymru (PA)
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn dod i Gymru heddiw i bledio achos aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd David Cameron yn pwysleisio bod bron hanner holl fasnach tramor busnesau yng Nghymru gyda gweddill yr Undeb.

Mae hynny werth tua £5.8 biliwn ac mae’r Trysorlys wedi amcangyfri’ bod tua 100,000 o swyddi yng Nghymru’n dibynnu ar aelodaeth.

‘Y gorau o ddau fyd’

“Mae fy marn i’n glir,” meddai David Cameron cyn cychwyn, “Rydym yn fwy llewyrchus, yn fwy diogel ac yn gryfach yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe fydd Cymru’n well ei byd achos fe fydd busnesau’n dal i allu gwneud defnydd llawn o’r farchnad sengl ar gyfer masnach rydd.”

Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn ymuno gydag ef ac yn cyfleu neges debyg: “Mae’r fargen hanesyddol a gafodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwetha’ yn caniatáu i Gymru gael y gorau o ddau fyd – bod yn rhan o floc masnachu o 500 miliwn o bobol a chael statws arbennig sy’n golygu nad ydyn ni’n rhan o’r closio at undeb gwleidyddol.”