Y Coliseum ym Mhorthmadog
Fe fydd hen sinema’r Coliseum ym Mhorthmadog yn cael ei dymchwel heddiw ac yn ôl un cynghorydd lleol mae’n “ddiwedd cyfnod.”

Fe wnaeth aelodau o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd bleidleisio ym mis Medi’r llynedd o blaid cais i ddymchwel yr adeilad eiconig yn y dref er gwaethaf pwysau’n lleol i’w achub.

Ar ôl ei ddymchwel, mae gan gwmni Develop UK Northern Ltd gynlluniau i ailddatblygu’r safle at ddefnydd masnachol.

‘Diwedd cyfnod’

Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffudd: “Mae’n bechod fod hyn yn digwydd.  Fe fydd yna hiraeth.

“Mae’r dref wedi colli adeilad eiconig. Mae’r peth wedi digwydd ac mae’n ddiwedd cyfnod.

“Dwi’n gobeithio y bydd y cynlluniau gan y cwmni yn gydnaws gyda gweddill y dref ac yn adlewyrchu ei gobeithion.”

Mae Alwyn Gruffudd hefyd yn credu fod y penderfyniad i ddymchwel y Coliseum yn dangos diffyg ymwybyddiaeth leol.

“Ymhob deddf cynllunio, mae yna bwyslais ar ddefnydd y tir ond dwi’n dadlau fod angen cael ymwybyddiaeth o’r tir hefyd.

“Fe ddylid dychwelyd hefyd i’r drefn lle’r oedd pwyllgor cynllunio i bob un o ranbarthau Gwynedd, yn yr hen Ddwyfor, Arfon a Meirionnydd yn hytrach nag un pwyllgor mawr,  i sicrhau ymwybyddiaeth leol.”

‘Fandaliaeth diwyllianol’

Mae’r darlledwr a’r cerddor Dyl Mei, sy’n wreiddiol o Borthmadog, hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad i ddymchwel yr adeilad gan ei ddisgrifio fel “fandaliaeth ddiwylliannol o’r radd uchaf.”

“Roedd Mam yn arfer gweithio yno am ryw 10 mlynedd, nes i weld fy ffilm gyntaf yna, treulio bob nos Wener rhwng 10 a 14 oed yna yn gwylio ffilmiau, lle andros o bwysig yn ystod fy magwraeth. Ond peidiwch â phoeni pobol Port, mae ’na drên stem yna a crazy golf does?”

Ymgyrch

Yn 2011, daeth y penderfyniad gwreiddiol i gau’r sinema oherwydd diffyg diddordeb y cyhoedd yng ngwasanaethau’r safle.

Yna, yn ystod Hydref a Thachwedd 2014, bu ymgyrch gref gan ymgyrchwyr a phobol leol i achub yr adeilad.

Ond, collwyd y cyfle olaf i’w arbed, pan wrthododd Cadw y cais i roi statws arbennig i’r adeilad ddiwedd Hydref 2014.

Agorwyd adeilad y Coliseum yn wreiddiol yn 1931, ac mae’n nodweddiadol o sinemâu’r cyfnod gyda’i bensaernïaeth art deco.