Y Ddraig Goch
Mae ymgyrch wedi cael ei lansio i godi ymwybyddiaeth o’r Ddraig Goch, gan alw am hedfan y faner genedlaethol mewn lleoliadau ledled Cymru.

Wrth gerdded ar lan afon Tawe y cafodd Geraint Roberts o Ystradgynlais ei ysbrydoli i sefydlu’r ymgyrch ‘Draig Goch Cymru’ ynghyd â chyfaill iddo, Michal Poreba o Wlad Pŵyl.

Arbenigwr cyfrifiadurol yw Michal, sydd bellach wedi ymgartrefu yn ninas Abertawe ac wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ac i drwytho’i hun yn niwylliant y Cymry.

Man cychwyn yr ymgyrch oedd lawrlwytho baner ar ffurf darlun a gafodd ei roi i Geraint Roberts gan un o’i fyfyrwyr, Paula Fardell, artist a symudodd i Gwm Dulais o Loegr yn ddiweddar ac sydd hefyd wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg.

Hanes y Ddraig Goch

Bu’r Ddraig Goch yn symbol i’r Cymry ers dros fil o flynyddoedd, ac mae cyfeiriadau di-ri ati yn ein hanes a’n llenyddiaeth dros y canrifoedd.

Mae cyfeiriadau at “ddreigiau” gan ein beirdd cynharaf i ddisgrifio rhyfelwyr dewraf Cymru, ac mae sôn am Arthur a Chadwaladr yn ymladd dan faner y ddraig – un goch i Arthur ac un aur i Gadwaladr.

Yn yr Oesoedd Canol, ymladdodd lluoedd Owain Glyndŵr o dan faner y Ddraig Aur i geisio annibyniaeth i Gymru, ac roedd y ddraig yn symbol bwysig ar bais arfau Owain Glyndŵr i gynnal ei darian.

Yn Oes y Tuduriaid, cafodd y faner rydyn ni’n gyfarwydd â hi heddiw gan Harri Tudur yn ystod Brwydr Bosworth yn 1485, pan gafodd Rhisiart III ei ladd.

Y Chwedlau

Mae dreigiau hefyd yn rhan bwysig o lenyddiaeth Cymru, nid lleiaf yn hanes Proffwydoliaeth Myrddin gan Sieffre o Fynwy ddechrau’r ddeuddegfed ganrif.

Yn y chwedl honno, mae Myrddin Ddewin yn esbonio pwysigrwydd brwydr rhwng y Ddraig Wen a’r Ddraig Goch mewn llyn yn Ninas Emrys wrth y brenin Gwrtheyrn.

‘Gwnawn y pethau bychain’

Dywedodd Geraint Roberts wrth Golwg360: “Mae’n wych fod pobl sydd wedi symud i Gymru, ac sydd wedi ymroi i fod  yn rhan o’n gwlad, wedi cyfrannu at greu’r fenter yma.

“Mae’n hawdd iawn i ddod o hyd i faner – cewch chi hyd i un am ddim ar ein gwefan os oes angen. Ac mae’r un mor hawdd i chi osod y Ddraig ar eich wal, mewn ffenest, ar eich car – hedfanwch y Ddraig Goch yn falch!

“Ystyriwch yr Unol Daleithiau, er enghraifft, lle mae’r Sêr a Streipiau o flaen siopau, tai, swyddfeydd, a phob math o lefydd.  Felly, pam na wnawn ni’r un fath o beth yng Nghymru? Mae gennym ni faner arbennig, wedi’r cwbl!

“Peth bach yw hedfan baner? Wel, gwnawn y pethau bychain!”

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan ymgyrch Draig Goch Cymru.