Mae Heddlu’r Gogledd wedi amddiffyn eu penderfyniad dadleuol i ladd ci drwy yrru car yn gyflym ato ar yr A55 rhwng Llanfairfechan a Chonwy.

Mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu’n chwyrn ar wefannau cymdeithasol.

Roedd y ci wedi bod yn rhedeg yn rhydd ar y ffordd yn oriau man fore Llun, ac fe gafodd y penderfyniad ei wneud i’w ddifa er lles diogelwch y cyhoedd gan fod nifer o gerbydau wedi gorfod gyrru o’i gwmpas ar gyflymdra uchel.

Cafodd un plismon ei frathu wrth geisio dal y ci ar droed cyn i gar yr heddlu yrru at yr anifail ar gyflymdra digonol i’w ladd ar unwaith.

‘Dim ffordd arall o ddal y ci’

Mewn datganiad uniaith Saesneg ar wefan yr heddlu, dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing: “Yn fuan wedi 3yb ddydd Llun 22 Chwefror, derbyniodd Ystafell Reoli Heddlu’r Gogledd nifer o alwadau’n ymwneud â chi oedd yn rhedeg yn rhydd ar yr A55 mewn nifer o leoliadau rhwng cylchfan Llanfairfechan a thwnnel Conwy.

“Mynychodd swyddogion o’r Uned Plismona Ffyrdd a gwnaed ymdrech i geisio dal y ci.

“Er gwaethaf nifer o ymdrechion i ddal y ci, fe barhaodd i redeg i mewn ac allan o’r traffig.

“Ar un adeg, fe geisiodd plismon ddal y ci ond fe gafodd ei frathu.”

Ychwanegodd fod y “potensial am wrthdrawiad difrifol drwyddi draw” ac nad oedd “ffordd arall o ddal y ci a lleihau’r risg i fodurwyr”.

Dywedodd mai’r “unig opsiwn diogel oedd rhedeg dros y ci ar ddigon o gyflymdra er mwyn sicrhau ei fod wedi’i ddifa ac na fyddai’n dioddef”, ac nad oedd y penderfyniad yn un hawdd i’w wneud.

Yn y datganiad ar eu gwefan, dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth y byddai “copi Cymraeg ar gael yn fuan”.