Yng nghynhadledd y blaid Lafur Gymreig yn Llandudno heddiw, mae disgwyl i Carwyn Jones ddefnyddio ei araith i annog pleidleiswyr i feddwl am etholiad mis Mai yn nhermau dau ddewis – Llafur neu’r Torïaid – ac i anwybyddu’r pleidiau llai.

Ac mae disgwyl iddo yn ei araith fynd i’r afael yn benodol â thwf UKIP yng Nghymru.

“Mae yna bleidiau ar yr ymylon sy’n dwyn sylw, ac mae UKIP yn un o’r rhain, ond ddylen ni byth golli golwg ar y ffaith mai brwydr glir rhwng Llafur a’r Torïaid ydi hon eleni,” yn ol Carwyn Jones.

“Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd ni, yn erbyn eu gweledigaeth a’u gwerthoedd nhw. Dyw hon ddim yn frwydr y gall pobol Cymru fforddio ei cholli.”

Fe fydd Carwyn Jones yn cyfeirio fwy nag unwaith at “fomentwm” llywodraeth Lafur sydd ar ganol ei rhaglen waith ddeng mlynedd, a’r “anhrefn” a allai gael ei achosi pe bai ethol llywodraeth o liw gwahanol ym Mae Caerdydd.