Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Brif Weinidog Cymru ymyrryd wedi iddi ddod i’r amlwg bod hysbysebion ar gyfer swydd cyfarwyddwr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn nodi fod y gallu i siarad Cymraeg yn “ddymunol” .

Mewn llythyr at Carwyn Jones heddiw, dywedodd Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg y mudiad iaith, y byddai penodi rhywun sydd ddim yn siarad Cymraeg yn “amharu’n ddifrifol” ar allu’r Ardd i “gyflawni ei hamcanion a’i hygrededd” fel Gardd Genedlaethol.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn pryderu mai dim ond un o blith wyth o benaethiaid adrannau’r Ardd sy’n gallu’r Gymraeg, ac yn credu bod rhaid penodi siaradwr Cymraeg i’r swydd hon oherwydd y prinder sydd yn barod.

Cefndir

Y llynedd, bu ffrae rhwng y Gymdeithas a’r Ardd ar ôl i’r Ardd Fotaneg osod arwyddion uniaith Saesneg yno, a bod diffyg darpariaeth Cymraeg ar y wefan yn mynd yn groes i’w polisi iaith ac i gytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r swydd ddisgrifiad ar gyfer cyfarwyddwr newydd, wedi i Dr Rosie Plummer ymddiswyddo ym mis Rhagfyr, yn dweud: “Mae rhuglder a hyder wrth siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn ddymunol.”

Mae’r swydd yn cael ei hysbysebu fel un ar gyflog rhwng £70,000 a £75,000 y flwyddyn.

Yn y llythyr at Carwyn Jones, dywedodd Manon Elin o Gymdeithas yr iaith: “Dim ond un o blith wyth o benaethiaid adrannau’r Ardd sy’n gallu’r Gymraeg – pe nas penodir cyfarwyddwr sy’n siarad Cymraeg, credwn bydd yn amharu’n ddifrifol ar allu’r Ardd i gyflawni ei hamcanion a’i hygrededd fel Gardd Genedlaethol. Galwn arnoch felly i ymyrryd er mwyn atgoffa’r Ardd o bwysigrwydd penodi siaradwr Cymraeg i’r swydd.

“Bydd yr Ardd yn dod o dan Safonau’r Gymraeg ymhen ychydig fisoedd. Bryd hynny, fe fydd yn ofynnol iddyn nhw wneud asesiad o sgiliau iaith eu gweithlu. Ond credwn fod gwendid o hyd yn y Safonau sy’n golygu bod diffyg cadernid o ran cynllunio’r gweithlu’n iawn.”

Ychwanegodd: “Mae rhaid penodi siaradwr Cymraeg i’r swydd hon, mae’n syfrdanol cyn lleied o staff sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am ymateb.