Safle Wylfa Newydd, Ynys Môn
Mae ymgyrchwyr wedi codi amheuon ynglŷn â dyfodol ymrwymiad cwmni Hitachi i ddatblygu Wylfa Newydd, Ynys Môn.

Daw hyn wedi i gwmni EDF Energy o Ffrainc fethu â sicrhau penderfyniad terfynol ddoe ynglŷn â’u buddsoddiad i brosiect gorsaf niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf.

Yn ôl llefarydd ar ran PAWB, Pobl Atal Wylfa B, mae hyn yn rhoi dyfodol cynllun Wylfa Newydd yn y fantol, ac fe ddywedodd fod y cynllun i godi peilonau ar draws yr ynys hefyd yn “gwbl ddibynnol ar godi dau adweithydd niwclear newydd yn Wylfa.”

‘Bygwth tynnu allan’

Mewn llythyr at Albert Owen, AS Ynys Môn, fe ddywedodd Dylan Morgan, ar ran PAWB fod y diffyg ymrwymiad i Hinkely Point C yn taflu cysgod dros Wylfa Newydd.

Fe gyfeiriodd at erthygl yn y Sunday Telegraph, Chwefror 14, lle mae Prif Weithredwr Horizon, Alan Raymant, yn dweud fod angen edrych “ar ystod ehangach o fuddsoddwyr.”

Mae’r llythyr hefyd yn cyfeirio at rybudd pennaeth cwmni Hitachi, Hiroaki Nakanishi, a ddywedodd ddiwedd mis Ionawr y gallai Hitachi (sy’n berchen ar Horizon) dynnu’n ôl o’r cynllun oni bai bod modd dod i gytundeb ariannol gyda Llywodraeth Prydain.

“Mae’n amlwg fod gan Nakanishi, a hyd yn oed Raymant, amheuon a fydd Hitachi/Horizon yn gallu denu buddsoddiadau preifat sylweddol i ariannu Wylfa B,” meddai Dylan Morgan.

‘Problem fawr’

Fe ychwanegodd Dylan Morgan fod y diwydiant niwclear “ar i lawr” yn fyd-eang.

“Mae gan y diwydiant broblem fawr yn rhyngwladol gyda delio â’r gwastraff ymbelydrol gwenwynig a gynhyrchwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf, heb sôn am ychwanegu at y cur pen hwnnw gyda gwastraff dwywaith poethach a dwywaith mwy ymbelydrol.”

Fe ddywedodd fod angen i Gymru edrych ar ffyrdd i gynhyrchu trydan drwy ffynonellau adnewyddol – “er budd ein hamgylchedd, cenedlaethau presennol ac yn bwysicach fyth er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.”

Ehangu cyfnod gweithredu’

Er nad yw EDF energy wedi llwyddo i gyhoeddi eu penderfyniad terfynol ynglŷn â buddsoddiad Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf, mae’r cwmni’n nodi mewn datganiad:

“Mae Hinkley Point C yn brosiect cryf sydd yn barod am benderfyniad am y buddsoddiad ariannol ac adeiladu llwyddiannus. Mae’r camau olaf ar y gweill i sicrhau bydd y cyfnod adeiladu yn cael ei lansio’n fuan iawn.”

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn ehangu cyfnod gweithredu pedwar o orsafoedd niwclear y DU.

Mae’r rhain yn cynnwys ymestyn Heysham 1 yn sir Gaerhirfryn a’r orsaf niwclear yn Hartlepool am bum mlynedd arall. Yn ogystal fe fydd Heysham 2 a Torness yn yr Alban yn cael eu hymestyn am saith mlynedd arall, tan 2030.

‘Prysur ddiflannu’

Ond, yn ôl Richard Dixon, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yr Alban: “Mae EDF wedi cyhoeddi ei hymestyniad i Torness am eu bod yn ceisio tynnu sylw oddi ar eu perfformiad ariannol ofnadwy a’u methiant ailadroddus i wneud penderfyniad terfynol i ddatblygu Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf ai peidio.

“Mae pŵer niwclear yn prysur ddiflannu yn Ewrop, ac mae’n debyg iawn na fydd Hinkley fyth yn cael ei adeiladu.”