Mae Heddlu’r De yn parhau i chwilio am ddynes 57 oed o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll ers pythefnos.

Gadawodd Lorraine Ridout ei chartref yng Ngabalfa union bythefnos yn ôl.

Fe fu mwy na hanner cant o bobol yn chwilio amdani ger afon Taf ddydd Sadwrn, ac roedd yr heddlu yno gyda hofrennydd ac offer archwilio.

Mae’r heddlu hefyd wedi bod yn cynnal ymchwiliad o ddrws i ddrws ac yn dosbarthu posteri yn y brifddinas.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.