Roedd dynes o Ynys Môn ymhlith pedwar o bobol a gafodd eu hachub pan aethon nhw i drafferthion oddi ar arfordir Gorllewin Affrica wrth rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd.

Dechreuodd Olivia Wilson (27), Gemma Chalk (33), Clare Lanyon (45) a Jane McIntosh ar eu taith ar Ionawr 26.

Eu bwriad oedd cyrraedd Barbados o fewn 45 o ddiwrnodau.

Ond fe gollon nhw eu ffordd fore Sadwrn a chael eu hachub gan long oedd ar ei ffordd i Ganada.

Dywedodd gwylwyr y glannau yng ngwledydd Prydain fod y menywod yn “iawn yn ôl adroddiadau”.