Dan Jones o Glwb Rotari Llanymddyfri, Heri Ryan Lloyd, a Guy Ayling, Warden y Coleg (Llun: Coleg Llanymddyfri)
Mae ysgol breifat yn Sir Gaerfyrddin wedi croesawu eu pedwerydd myfyriwr ar ddeg o Batagonia, a fydd yn astudio gyda nhw tan y Pasg.

Ar ôl ennill ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Llanymddyfri fe gyrhaeddodd Heri Ryan Lloyd o Esquel, yr Ariannin, y coleg ddiwedd mis Ionawr ac fe gafwyd derbyniad i’w groesawu.

Dyma’r ail dro iddo fod yng Nghymru, ar ôl treulio cyfnod yma dros yr haf llynedd gyda sioe Genedlaethol yr Urdd, Mimosa.

“Roedd yn anhygoel [teithio Cymru gyda’r sioe],” meddai wrth golwg360, gan ddweud bod ei brofiad yng Nghymru am yr ail dro yn un gwahanol.

‘Dim llawer’ o gyfle i siarad Cymraeg

Roedd iaith yn gallu peri rhwystr weithiau fodd bynnag, meddai, gan fod diffyg siaradwyr Cymraeg yn yr ysgol.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yma yn siarad Saesneg, mae rhai o’r disgyblion yn siarad Cymraeg ond dim llawer,” esboniodd Heri Ryan Lloyd.

“Dwi dim ond [yn siarad Cymraeg] gyda rhai o’r disgyblion a gyda rhai o’r athrawon Cymraeg.”

Er hyn, dywedodd ei fod yn mwynhau astudio gramadeg yn y coleg ac yn cael cyfle i grwydro o amgylch Cymru hefyd.

“Dw i wedi bod i Stadiwm y Mileniwm, Canolfan y Mileniwm, wedi cyfarfod â ffermwyr ifanc yn Llangadog ac wedi bod i’r Blue Lagoon [parc nofio yn Sir Benfro],” meddai.

“Nawr dwi isio mynd i Ruthun i gwrdd â ffrindiau o’r sioe Mimosa ac i weld perthnasau yn Llanrwst.”

Ysgoloriaeth

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth yn 2003 o dan nawdd y diweddar Tom Gravell, ac ers hynny mae 14 o fyfyrwyr o Batagonia wedi bod yn aros yn y Coleg.

Bu farw’r gwerthwr ceir, Tom Gravell, o Gydweli, yn 2013 a sefydlodd y garej enwog Gravell’s yn y dref, gan fagu cysylltiadau â Phatagonia.

Cafodd ei wahodd yn 1969 i’r Ariannin gan fecanig o Batagonia, a bu yno 13 o weithiau i gyd yn helpu ymdrechion yn y Wladfa i adfer y Gymraeg yno.

‘Gwella sgiliau Cymraeg a Saesneg’

Dywedodd yr ysgol breifat, sy’n derbyn plant rhwng 3 ac 18 oed ac yn codi hyd at £8,470 y tymor am addysg yno, y bydd Heri Ryan Lloyd yn parhau i astudio a gwella ei sgiliau iaith yn y Gymraeg a’r Saesneg tra bydd yng Nghymru.

Ar yr un pryd fe fydd e’n cymryd rhan yng ngwaith adrannau’r Gymraeg a Sbaeneg yn y Coleg ac yn ymweld â’r ysgol gynradd leol, Ysgol Rhys Pritchard, i roi hanes ei famwlad, ei daearyddiaeth a’i diwylliant.

Mynychodd Dan Jones ar ran Clwb Rotari Llanymddyfri’r derbyniad i groesawu Ryan a chyflwynodd siec o £250 fel ‘arian poced’ iddo.

“Mae’r Coleg yn falch o’r Ysgoloriaeth hon, y cyfleoedd mae’n rhoi i fyfyrwyr o Batagonia, ond hefyd ein disgyblion ein hunain sy’n elwa o ddealltwriaeth ddyfnach o hanes Cymru a Phatagonia,” meddai Warden y Coleg, Guy Ayling.

Stori: Mared Ifan