Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio drwy’r nos i geisio trwsio pibell ddŵr sydd wedi hollti, ger pentref Trap yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r bibell yn rhedeg o’r pentref, ger Llandeilo, ac yn darparu dŵr yfed i gymunedau yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’n debyg bod hyn wedi effeithio ar filoedd o bobol ym mhentrefi yn nwyrain y sir, yn Nhrap, Llandybie, Cross Hands, y Tymbl, Gorslas, Pen-y-groes a Charmel.

 

Yn ôl y cwmni dŵr, mae’n ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn gobeithio y bydd y cyflenwad dŵr yn ôl yn gynnar heno.

Pan fydd y dŵr yn ôl, gall fod wedi troi lliw, mae hyn yn arferol a dylai’r dŵr glirio pan gaiff ei redeg o dap dŵr oer, meddai’r cwmni.