Simon Thomas
Mae ymgeisydd Cynulliad y Blaid Lafur yn Llanelli, Lee Waters wedi lladd ar Blaid Cymru ar ôl i Aelod Cynulliad blaenllaw awgrymu y gallen nhw geisio cytundeb i gefnogi llywodraeth Geidwadol leiafrifol wedi’r etholiadau ym mis Mai.

Awgrymodd Simon Thomas fod Plaid Cymru’n barod i drafod y posibilrwydd o gefnogi polisïau llywodraeth Dorïaidd leiafrifol pe na bai Llafur yn ennill digon o seddi i gadw eu gafael ar eu grym yn y Senedd.

Ond fe ddywedodd na fyddai Plaid Cymru’n clymbleidio â’r Ceidwadwyr o dan unrhyw amgylchiadau.

Lleiafrifol

Yn dilyn sylwadau Simon Thomas, dywedodd un arall o Aelodau Cynulliad y Blaid, Rhun ap Iorwerth na allai ddychmygu’r fath gytundeb lle byddai Plaid Cymru’n cefnogi’r Ceidwadwyr mewn pleidleisiau o ddiffyg hyder a pholisïau’n ymwneud â gwariant.

Er bod y llywodraeth Lafur bresennol yn un leiafrifol, dydy’r fath gytundeb ddim yn bodoli ar hyn o bryd.

Lee Waters fydd yn herio Helen Mary Jones am sedd Llanelli yn dilyn penderfyniad Keith Davies i gamu o’r neilltu.

‘Straen’

Mewn datganiad, dywedodd Lee Waters: “Mae Plaid Cymru’n dweud mai eu blaenoriaeth yw disodli Llafur ond ni allan nhw fyth ffurfio Llywodraeth ar eu pennau eu hunain.

“Efallai bod Leanne Wood wedi codi ei phroffil yn yr Etholiad Cyffredinol, ond dydy enwogrwydd ddim yr un fath â hygrededd a dydy pobol ddim yn gallu ei gweld hi fel Prif Weinidog.

“Felly sut fydden nhw’n cael Llafur allan? Mae eu hymdrechion i wadu cefnogi’r Torïaid yn ymddangos dan straen. Naill ai hynny, neu fod yn rhan o Glymblaid Enfys gyda’r Torïaid.”