Mae UEFA  wedi anfon cadarnhad heddiw i gefnogwr pêl-droed Cymru sydd wedi bod yn aros yn eiddgar i glywed am docynnau Ewro 2016.

Roedd rhai cefnogwyr eisoes wedi amau ddoe eu bod wedi llwyddo yn eu cais, a hynny ar ôl i arian gael ei dynnu o’u cardiau credyd a chyfrifon banc.

Bore ddydd Mawrth fe ddechreuodd UEFA e-bostio cadarnhad i’r cefnogwyr lwcus hynny fydd nawr yn gallu gwylio Cymru yn chwarae Ffrainc yn yr haf.

Fe fydd teimladau cefnogwyr eraill yn gymysglyd ar ôl clywed mai dim ond i rai o gemau tîm Chris Coleman maen nhw wedi llwyddo i gael tocynnau.

Roedd siom i eraill wrth iddyn nhw ddarganfod nad oedd eu cais yn llwyddiannus, gydag eraill yn dal i aros am gadarnhad gan y trefnwyr.

Meysydd llai

Bydd Cymru’n herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yn y gystadleuaeth ac fe gafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru dros 52,000 o geisiadau am docynnau ar gyfer y tair gêm hynny.

Yn anffodus i gefnogwyr Cymru mae’r tair gêm yn cael eu chwarae yn Bordeaux, Lens a Toulouse, sydd â rhai o’r meysydd lleiaf sy’n cael eu defnyddio yn y gystadleuaeth.

Roedd hynny’n golygu ei bod hi’n anoddach cael tocynnau ar gyfer y gemau, ac fe ofynnodd CBDC wrth UEFA am ragor i allu rhoi i’r Cymry.

Yn y diwedd fe gafwyd 9,000 o docynnau ar gyfer gêm Slofacia, 5,200 ar gyfer gêm Lloegr a 7,000 ar gyfer gêm Rwsia.

Ond fe allai rhagor o gefnogwyr Cymru oedd wedi ceisio am docynnau drwy’r arwerthiant cyffredinol, yn hytrach na thrwy’r Gymdeithas Bêl-droed, glywed yn yr wythnosau nesaf a fydd eu ceisiadau nhw’n llwyddiannus.