Mae cymunedau ledled Cymru wedi dioddef heddiw wrth i storm Imogen greu problemau ar y ffyrdd, tarfu ar wasanaethau trên a gadael miloedd o bobol heb drydan.

Mae’r heddlu wedi cau canol tref Pen-y-bont ar Ogwr dros bryderon am ddiogelwch y cyhoedd ar ôl i deils toeon chwythu i ffwrdd.

Ac ar yr arfordir, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobol i gymryd gofal, gan ddweud wrthyn nhw i beidio mentro allan i gymryd ‘hunluniau’.

Mae 1,700 o bobol yn dal i fod heb drydan yn Ne Cymru, gyda thua 500 yn Sir Gaerfyrddin, 329 yn Sir Benfro, 308 yn Rhondda Cynon Taf a 197 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Western Power Distribution ei fod yn gobeithio y bydd trydan yn dod yn ôl i’r rhan fwyaf o’i gwsmeriaid yn gynnar heno, ond doedd ddim yn gallu cadarnhau amser.

Y ffyrdd

Wrth i wyntoedd cryfion o tua 80mya cael eu cofnodi, cafodd lori ei chwythu drosodd ar yr M4 ger Port Talbot, gan achosi milltiroedd o dagfeydd traffig.

Mae Pont Hafren hefyd ar gau i’r ddau gyfeiriad o achos y gwynt cryf.

Llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 7 rhybudd difrifol o lifogydd yn Niwgwl, Sir Benfro, Croffty, ger Abertawe, afon Gwy, Sir Fynwy, Aberystwyth ac afon Hafren yn Aberbechan.

Mae 23 rhybudd oren sy’n rhybuddio pobol i fod yn barod am lifogydd hefyd, mae’r rhain i gyd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae prom Aberystwyth yn dal i fod ynghau, wrth i donnau enfawr orchuddio’r ffordd i gyd a chyrraedd ffenestri ar ail lawr adeiladu ar y ffrynt.

Oedi ar wasanaethau trên

Mae’r storm hefyd wedi creu llawer o broblemau ar drenau, wrth i lwyth o deithiau Trenau Arriva Cymru orfod cael eu gohirio.

Ar hyn o bryd, mae oedi ar wasanaethau rhwng Port Talbot a’r Pîl, Abermaw a Harlech, Llanelli a Phen-bre a Chastell-nedd.

Mae gwasanaethau rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Llanilltud Fawr, Canol Caerdydd a Phen-coed, Pontypridd ac Abercynon a Stryd y Frenhines Caerdydd wedi cael eu canslo.

Yng Nghydweli, ger Llanelli, mae tyrbin gwynt wedi mynd ar dân, ac mae’r Gwasanaeth Tân yno ar hyn o bryd, ond nid yw’n glir ai’r tywydd stormus oedd yn gyfrifol.