Cheryl James - bu farw ym marics Deepcut yn 1995
Mae tystiolaeth wyddonol newydd yn dangos efallai nad oedd milwr ifanc o Langollen wedi lladd eu hun ar ôl darganfod ei chorff ym marics y fyddin dros 20 mlynedd yn ôl.

Mae cwest newydd yn cael ei gynnal i farwolaeth y Preifat Cheryl James, 18, a gafodd ei darganfod ag anaf bwled ym Marics Deepcut yn Surrey ym mis Tachwedd 1995.

Roedd yn un o bedwar milwr a fu farw yno dros gyfnod o saith mlynedd.

Yn y gwrandawiad yn Llys y Crwner, Woking, roedd cyfreithwyr dros deulu Cheryl James wedi galw am oedi’r cwest i sicrhau bod tystiolaeth batholegol “bwysig” yn cael ei hystyried.

Mae disgwyl i’w thad, Des James, 66, roi tystiolaeth yn y llys heddiw, lle fydd yr achos yn parhau, er gwaethaf galwadau’r teulu i’w oedi.

“Dyfalu eithafol”

Yn ôl cyfreithwyr, sy’n cynrychioli Heddlu Surrey yn yr achos, mae awgrymu bod rhywun arall yn rhan o’i marwolaeth yn “dyfalu eithafol”.

Dywedodd John Beggs, QC, fod yr adolygiad yn 2006 wedi clywed bod Cheryl James wedi siarad am farwolaeth milwr arall, Sean Benton, a’i bod wedi “crybwyll saethu ei hun yn ystod y cyfnod hwn.”

Roedd y crwner, Brian Barker, QC, wedi dyfarnu y dylai’r cwest barhau heb oedi gan nad oedd “annhegwch ymarferol” os bydd arbenigwyr gwyddonol yn cael eu clywed yn ddiweddarach yn yr achos.

Bydd y cwest yn ystyried tystiolaeth newydd sy’n awgrymu bod Cheryl James, wedi cael ei hescbloetio’n rhywiol gan uwch swyddogion yn fuan cyn ei marwolaeth.

Roedd y milwyr Sean Benton, 20, James Collinson, 17 a Geoff Gray, 17, hefyd wedi cael eu lladd ar ôl cael eu saethu yn y barics rhwng 1995 a 2002.