Mosg
Fe fydd mosg Darul Isra yng Nghaerdydd yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd ddydd Sul fel rhan o ddiwrnod cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r ffydd Islamaidd.

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu ar y cyd â Chyngor Mwslemiaid Prydain.

Bydd y mosg yng Nghaerdydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 11 y bore a 5 o’r gloch brynhawn Sul.

Bydd prif addoldy’r Mwslemiaid yn y brifddinas yn un o 80 o ganolfannau fydd yn cymryd rhan yn yr ail ddigwyddiad blynyddol.

Bwriad y digwyddiad yw herio agweddau all arwain at Islamoffobia, ac fe fydd yn gyfle i Fwslemiaid egluro wrth weddill y gymdeithas beth yn union sy’n digwydd mewn mosg.

Fe fydd canolfannau ledled Prydain yn gwahodd arweinwyr aml-ffydd i’r digwyddiad.

Mae disgwyl i dair gwaith mwy o fosgau gymryd rhan yn y digwyddiad o’i gymharu â’r llynedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan www.mcb.org.uk/visitmymosque.