Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae’n rhaid i lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig gefnogi’r cynllun gwerth £1bn i godi lagŵn er mwyn cynhyrchu trydan o donnau’r môr ym Mae Abertawe, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron.

Mae disgwyl iddo ddadlau achos y lagŵn yn ystod araith yng nghynhadledd wanwyn ei blaid yng Nghaerdydd heddiw, ac fe ddaw wedi i’r Prif Weinidog, David Cameron ddweud wrth bwyllgor o Aelodau Seneddol yn ddiweddar ei fod yn llai brwdfrydig dros y cynllun oherwydd y costau.

Ond, yn ôl Tim Farron, mae dyfodol y prosiect yn dangos pa mor ymrwymedig ydi’r llywodraeth yn San Steffan i’r sector ynni gwyrdd.

Mae’r cynllun ym Mae Abertawe wedi’i ohirio am flwyddyn tra bo trafodaethau’n parhau yn San Steffan ynglyn â sut y bydd y llywodraeth yn ariannu’r prosiect.

“Mae’n rhaid i’r cynllun ddigwydd”

“Mae’n rhaid i gynllun Lagŵn Llanw Bae Abertawe fynd rhagddo,” meddai Tim Farron. “Fe fydd yn creu cannoedd o swyddi ac yn rhoi cyflenwad trydan am 120 o flynyddoedd… dros dair gwaith oes atomfa niwclear.

“Fe fyddai’n wallgofrwydd llwyr i’r llywodraeth i dynnu’n ôl mwy o fuddsoddiad yn y sector adnewyddol sydd hefyd yn creu twf economaidd a swyddi,” meddai. “Rydyn ni wedi bod yn arwain y byd yn y maes hwn, ac mae ein henw da bellach yn y fantol. Mae’r lagwn yn brawf ar y llywodraeth – ydyn nhw’n poeni am yr agenda werdd? Neu ai sioe oedd y cyfan?

“Am bum mlynedd, fe fu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymladd er mwyn gwneud yn siwr fod y llywodraeth glymblaid yn San Steffan y llywodraeth fwya’ gwyrdd erioed,” meddai wedyn. “Yn y chwe mis diwetha’ mae’r holl waith hwnnw wedi bod yn dadfeilio yn frawychus o sydyn.”