Cynghorydd Hugh Jones (llun o wefan y Cyngor)
Mae ymgyrchwyr iaith yn Wrecsam wedi gwneud cwyn swyddogol am gynghorydd lleol gan honni ei fod wedi torri côd ymddygiad y sir.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, roedd y Cynghorydd Hugh Jones wedi gwneud gwneud datganiad camarweiniol yn dweud bod cost gweithredu safonau Cymraeg yn fwy nag oedden nhw mewn gwirionedd.

Ond mae ef wedi dweud wrth Golwg360 nad oes gwirionedd yn yr honiadau a fod y gost wedi gostwng ar ôl trafodaethau ynghylch y safonau gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

“Maen nhw’n anghywir, gan eu bod nhw’n defnyddio’r wybodaeth anghywir,” meddai’r cynghorydd Hugh Jones wrth golwg360.

Yr honiad

Yn wreiddiol roedd Hugh Jones, yr aelod Ceidwadol sy’n gyfrifol am y Gymraeg ar Gyngor Bwrdeiatref Wrecsam, wedi nodi y byddai cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg yn costio tua £700,000 y flwyddyn – swm sydd wedi ei addasu bellach i lai na thraean hynny.

Yn ôl aelodau Cell Wrecsam Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, doedd y Cyngor ddim wedi ceisio cysylltu â darparwyr i ofyn am brisiau wrth amcangyfrif y costau gwreiddiol a, phan ddaeth y gwallau’n amlwg, roedd Hugh Jones wedi ceisio cuddio hynny rhag y Bwrdd Gweithredol.

“Ymdrechodd Cynghorydd Hugh Jones yn bwrpasol i ledaenu bygythiadau o gau llyfrgelloedd a diswyddo staff yn seiliedig ar amcangyfrifon costau hollol anghywir,” meddai Raymond Floyd, un o aelodau’r Gell.
“Mae diffyg ymdrechu i sicrhau defnydd doeth o adnoddau’r awdurdod, camarwain y Bwrdd Gweithredol a’r cyhoedd yn ymddygiad annerbyniol gan Gynghorydd,” meddai Aled Powell, Cadeirydd y Gell.

Ateb y Cynghorydd

Yn ôl Hugh Jones, roedd y ffigurau gwreiddiol a roddodd wedi eu dilysu gan Bennaeth Cyllid y cyngor, ar sail y safonau iaith drafft fel yr oedden nhw ar y pryd.

“Yn dilyn cyfarfodydd â swyddfa’r Comisiynydd, daeth y safonau diwygiedig ar gost is,” meddai wrth Golwg360 gan ychwanegu nad yw e wedi torri “unrhyw god ymddygiad” a bod ganddo dystiolaeth i gefnogi hynny.

Doedd gan y Gymdeithas “ddim tystiolaeth” dros yr honiad ei fod wedi ceisio cuddio’r gwallau gwreiddiol.

“Rwy’n gefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a fydden i ddim yn gwneud unrhyw beth i’w thanseilio,” meddai.

‘Mwy o alw am Bortiwgaeg’

Honnodd y Cynghorydd Jones hefyd mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol bod mwy o bobol Wrecsam yn siarad Pwyleg a Phortiwgaeg na Chymraeg.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw wedi gofyn, ar fwy nag un achlysur, am dystiolaeth i gefnogi hyn, ond nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw ymateb.

Yn ôl y Cyfrifiad, roedd llai na 500 o siaradwyr Portiwgaeg yn y sir yn 2011 tra bod adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod bron 7,000 o bobol Wrecsam yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd.