Daeth cadarnhad heddiw na fydd Llywodraeth Prydain yn cwtogi’r cyllid y mae’n ei roi i S4C ar gyfer 2016-17, ac y bydd yn cynnal adolygiad o’r sianel yn 2017.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, John Whittingdale y bydd ei adran yn parhau i gyfrannu £400,000 ar gyfer 2016-17, sy’n golygu ei fod yr un lefel â 2015-16.

Wrth gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a’r Cyfryngau y byddan nhw’n “edrych ar gylch gwaith, trefniadau llywodraethu a chyllid S4C i sicrhau bod y darlledwr yn dal i allu bodloni anghenion cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg yn y dyfodol a buddsoddi mewn rhaglenni ansawdd uchel.”

Yn Natganiad yr Hydref nôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y bydd yr arian  mae S4C yn ei dderbyn yn cael ei dorri ymhellach o £6.7 miliwn i £5miliwn erbyn 2019.

‘Gwasanaeth gwerthfawr’

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, John Whittingdale: “Crëwyd S4C gan Lywodraeth Geidwadol, ac mae Llywodraeth bresennol y DU yn dal i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaeth gwerthfawr y mae S4C yn ei ddarparu i gynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg.

“Rwy’n falch iawn fod y Llywodraeth wedi gallu darparu cyllid ychwanegol ar gyfer S4C, sy’n cefnogi llawer iawn o gynhyrchwyr annibynnol o bob cwr o Gymru, a’r unig sianel Gymraeg yn y byd.”

‘Sianel gref’

Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns: “Mae S4C yn rhan bwysig a hir-sefydlog o gyd-destun darlledu gwasanaeth cyhoeddus cyfoethog y DU. Mae’r sianel a’i chynnwys yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ffyniant y Gymraeg a chryfder ein sector creadigol.

“Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae’r llywodraeth hon am sicrhau bod S4C yn parhau i fod yn sianel gref. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu’r ymrwymiad hwn. Rydym am weld y sianel yn parhau i ddatblygu er mwyn bodloni anghenion yr oes ddigidol, a datblygu rhai o raglenni mwyaf arloesol, awdurdodol a difyr y DU.”

Llythyr

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i Gadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan, David TC Davies anfon llythyr at y Canghellor George Osborne yn mynegi pryder am gyllid y sianel.

Yn ei lythyr, mynega David TC Davies bryderon am gynlluniau’r Llywodraeth i dorri grant S4C o £6.7 miliwn i £5 miliwn erbyn 2019-20.

Cyfeiria at bryderon y mae tystion wedi eu mynegi hefyd, gan ddweud bod “cynrychiolwyr o’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru wedi dweud wrthym y gallai hyn effeithio’n ddifrifol ar gyflwr y diwydiant yng Nghymru.”

“Rydym yn deall mai’r sianel hon yw’r unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus nad yw’n darparu cynnwys eglurder uchel (HD), ac mae 57% o’r oriau darlledu yn ailddarllediadau.”

Fe esboniodd y byddai adolygiad annibynnol yn cynnig “dealltwriaeth lawn a thrwyadl o’r anghenion cyllido digonol sydd ei angen fel yr unig sianel deledu Cymraeg drwy’r byd.”

“Wrth i gwestiynau godi am gynhwysedd y sianel i ddarparu cynnwys o safon uchel ar draws platfformau wrth i dechnoleg ddarlledu ddatblygu, rydym yn gofyn ichi ystyried cynnal adolygiad annibynnol i gynnwys a chwmpas y sianel.”

‘Arwydd clir a phwysig o gefnogaeth’

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Mae’r egwyddor o gynnal adolygiad o anghenion y gwasanaeth, cyn i’r cyllido gael ei benderfynu’n derfynol, yn un rydym ni ac aelodau seneddol o bob plaid, wedi bod yn dadlau drosti.

“Yn y cyfamser, mae rhewi’r cyllid presennol yn arwydd clir a phwysig o gefnogaeth gan y Llywodraeth ac rydym yn ei groesawu’n fawr. Edrychwn ymlaen, maes o law, at dderbyn manylion hyd a lled ac amseriad yr adolygiad, ac at gyfrannu’n llawn iddo.”

‘Newyddion positif i ddarlledu yng Nghymru’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies: “Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu i S4C; ac mae’n profi ymhellach fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cydweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i gael y canlyniadau gorau i Gymru.

“Yn groes i’r hen ystrydeb gan Blaid Lafur Jeremy Corbyn nad yw’r Ceidwadwyr yn deall darlledu yng Nghymru, mae’r ymrwymiad hwn yn ategu ymrwymiad y Prif Weinidog i sianel Gymraeg gref.

“Rydym wedi egluro’n gyson ein bod ni’n anghytuno â thoriadau i gyllid S4C ac yn dilyn cyfarfodydd adeiladol gyda’r Ysgrifennydd Diwylliant, a chydweithwyr yn Llywodraeth y DU, mae’r cynnydd hwn yn newyddion positif i ddarlledu yng Nghymru.”

‘Angen sicrwydd’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan, John Whittingdale yn cadw at addewid maniffesto’r Ceidwadwyr i beidio â thorri cyllideb S4C.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Jamie Bevan: “Wnaeth y Ceidwadwyr addo ’diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C’ ac rwy’n falch nad ydyn nhw bellach yn bygwth torri grant y sianel.

“Nawr mae angen sicrwydd ariannol hir-dymor ar S4C – mae angen fformwla ariannu mewn statud sy’n cynyddu, fan lleiaf, gyda chwyddiant.

“Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf, ac mae’n rhaid sicrhau bod ganddi’r adnoddau, y sicrwydd a’r annibyniaeth sydd eu hangen er mwyn datblygu.”