Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru
Mae posibilrwydd y bydd dau aelod blaenllaw o UKIP yn Lloegr yn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad eleni, wrth i arweinydd y blaid yng Nghymru gadarnhau mai “dewis yr aelodau” fydd hi.

Mae ffrae wedi bod yn corddi o fewn y blaid ar ôl i nifer o gyn-ymgeiswyr rybuddio y byddan nhw’n anhapus os bydd cyn-Aelodau Seneddol Ceidwadol fel Neil Hamilton a Mark Reckless yn cael eu dewis ar gyfer y rhestrau rhanbarthol.

Dywedodd Nathan Gill  fod y Pwyllgor Cenedlaethol wedi penderfynu y bydd aelodau’r blaid yn cael pleidleisio dros bwy fydd yn cynrychioli UKIP ym mhob rhanbarth maen nhw’n gobeithio ennill seddi.

Bydd rhestr o 5 i 7 ymgeisydd yn ymddangos ar gyfer pob rhanbarth, gan gynnwys Neil Hamilton a Mark Reckless.

‘Dewis yr aelodau’

“Os bydd yr aelodau’n dewis eu bod nhw eisiau Neil Hamilton yn rhif un, wedyn sut gallwn ddadlau yn erbyn hynny?” meddai Nathan Gill ar BBC Radio Wales y bore ma, gan osgoi cwestiynau am ei ddewis ef dros bwy ddylai sefyll.

Ar ddiwedd mis Ionawr, dywedodd Kevin Mahoney, cynghorydd UKIP ar Gyngor Bro Morgannwg wrth golwg360 y bydd yn “anochel” ei fod yn gadael y blaid pe bai Neil Hamilton a Mark Reckless yn cael eu dewis i gynrychioli UKIP yng Nghymru.

‘Plaid y werin’

Ond roedd Nathan Gill yn mynnu bod hyn yn dangos mwy nag erioed fod UKIP yn “blaid y werin” a bod y broses yn “hollol ddemocrataidd”.

“Mae wedi bod yn frwydr fawr, ac mewn gwirionedd pum mlynedd yn ôl (yn etholiadau diwethaf y Cynulliad), doedd neb yn poeni am bwy oedd ar ein rhestr ranbarthol. Mae’n dangos mor bell r’yn ni wedi dod mewn pum mlynedd,” meddai.

“Mae pobol yn gwybod y byddwn yn gwneud yn dda iawn yn yr etholiad hwn.”