Cefin Campbell
Daeth cadarnhad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin heddiw ei fod yn bwriadu herio tair safon iaith sydd wedi’u cyflwyno gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

Mae’r tair safon yn ymwneud â chynnal cyfarfodydd arbenigol gyda’r cyhoedd yn y Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na chyfieithu olynol.

Yn ôl y cyngor, nid yw’n “ymarferol” iddyn nhw gynnal rhai cyfarfodydd yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu.

“Bydden i’n hoffi bod yn y sefyllfa i dderbyn y tair safon yna ond, ar hyn o bryd, does yna ddim y staff arbenigol gyda ni ymhob un o’r adrannau sy’n gallu gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Cefin Campbell, Is-gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol dros y Gymraeg ar y cyngor.

Mae’n debyg fod y cyngor wedi gofyn am ragor o amser i weithredu’r tair safon hon ond gan mai chwe mis o estyniad oedd y Comisiynydd wedi caniatáu, doedd hyn ddim yn ddigon o amser i’w gweithredu, yn ôl y cyngor.

“Rydyn ni wedi gorfod derbyn fod hynny’n amhosib (i’w gweithredu o fewn chwe mis),” meddai Cefin Campbell wedyn.

“Byddwn ni ddim yn gallu sicrhau y bydd y staff yna ar lefel o arbenigedd sydd ei angen, mewn rhyw faes arbennig.

“Nid mater o beidio derbyn yr egwyddor yw e ond mater o fod yn gwbl ymarferol a dweud ein bod ni methu â gwneud e mewn chwe mis, mewn blwyddyn falle, ond nid chwe mis.”

“Siomedig” medd Cymdeithas

“Rydyn ni’n siomedig fod y Cyngor yn gwrthwynebu yn hytrach na gofyn am fwy o amser,” meddai Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith, ac sydd hefyd yn byw yn y sir.

“Dylai’r Cyngor anelu at yr un lefel o ddarpariaeth Gymraeg â Chyngor Gwynedd ond rydyn ni’n derbyn y byddai angen mwy o amser. Rydym wedi beirniadu’r Comisiynydd am y lefel isel o Safonau sydd ar Sir Gâr, gan eu bod nhw’n sylweddol is na’r hyn sy’n ofynnol gan Gyngor Gwynedd.

“Dylai’r Cyngor ofyn am fwy o amser i gyflawni’r safonau ychwanegol yn hytrach na herio’r rhai isaf. Os ydy’r Cyngor o ddifrif ynglŷn â symud at weinyddiaeth fewnol, dylen nhw ymrwymo i gyrraedd yr un lefel o Safonau â Gwynedd.”