Eglwys Angle, Sir Benfro
Fe allai cofeb i forwyr o Siapan fu farw yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf gael ei osod ger eglwys yn Sir Benfro ble maen nhw wedi cael eu claddu.

Cafodd cyrff y morwyr eu darganfod gerllaw ar 4 Hydref 1918, ar ôl i’w llong yr Hirano Maru gael ei suddo gan U-boat Almaenig.

Dim ond 29 o’r 320 o bobl ar y llong oroesodd yr ymosodiad, ac fe gafwyd hyd i’r rhan fwyaf o’r cyrff ar arfordir Iwerddon.

Pymtheg o’r cyrff ddaeth i’r lan yn Sir Benfro, ac mae’r rheiny bellach wedi eu claddu mewn bedd dienw ym mynwent eglwys pentref Angle.

Hyd yn hyn dim ond postyn pren sydd wedi bod yno i nodi’r rheiny gafodd eu canfod, a dim ond enw un ohonyn nhw – Shiro Okoshi – sydd wedi cael ei gofnodi yn yr eglwys.

Ond mae’r postyn hwnnw bellach wedi hen bydru, ac felly mae ymgyrch i geisio creu cofeb fwy parhaol i’r morwyr.

Mae dyn lleol o’r enw David James bellach wedi cysylltu â Llysgenhadaeth Siapan er mwyn ceisio trefnu cofeb ar gyfer y morwyr.

“Fe ddylai fod cofnod yma,” meddai. “Rwy’n teimlo mai dyna’r peth cywir.”