Pecyn Sticeri Draig Goch Y Lolfa
Mae asiantaeth trwyddedu gyrwyr y DVLA wedi dweud wrth golwg360 y gallai pobol sy’n penderfynu ychwanegu sticer Draig Goch i’w trwyddedau gyrru wynebu dirwy.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad gwasg Y Lolfa i gynhyrchu’r sticeri er mwyn i yrwyr allu eu gosod dros faner Jac yr Undeb ar drwyddedau newydd.

Dywedodd y DVLA na ddylai unrhyw un newid rhywbeth ar eu trwyddedau gyrru gan y gallai “arwain at drafferthion wrth geisio profi eu hawl i yrru.”

Os byddai angen i berson cael trwydded newydd oherwydd bod yr un sydd ganddo wedi’i ‘anharddu’, byddai’r unigolyn hwnnw yn wynebu dirwy o £20, meddai’r asiantaeth.

Roedd Llywodraeth Prydain wedi dweud yn 2014 y bydd pob trwydded yrru newydd yn cael baner Brydeinig arni er mwyn ‘cynyddu teimlad o undod cenedlaethol’.

‘Gorfodi’ Prydeindod

“Rydym yn credu ei fod yn hollol annheg fod Prydeindod yn cael ei orfodi arnom yn y ffordd hon,” meddai Fflur Arwel, pennaeth marchnata Y Lolfa.

“Nid oes gan bobl y dewis i ddatgan eu cenedligrwydd na dangos eu balchder o fod yn Gymry.”

Ysgrifennodd un cwsmer, Meurig Parri, at yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) haf diwethaf i gwyno wedi iddo dderbyn ei drwydded newydd gyda Jac yr Undeb arno.

“Dyma’r drwydded newydd yn cyrraedd gyda Jac yr Undeb arno. Cymro ydwyf i, a baner fy nghenedl yw’r Ddraig Goch, nid Jac yr Undeb,” meddai.