Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi rhybuddio am beryglon anwybyddu’r Holocost ar y diwrnod cenedlaethol sy’n coffáu’r erchylltra yn erbyn yr Iddewon dan law’r Natsïaid.

Bydd y Cynulliad yn coffáu’r achlysur ddydd Mercher wrth i lyfr ymrwymo gael ei agor yn y Senedd drwy gydol yr wythnos.

Fe fydd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler yn bresennol yn y seremoni swyddogol yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, gan osod torch ar ran y sefydliad.

‘Peidiwch anwybyddu’

Mewn datganiad, rhybuddiodd Leanne Wood: “Peidiwch Anwybyddu’: anodd yw meddwl am eiriau a fyddai’n gallu atseinio mor bwerus heddiw â thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni.

“Mae’r degawdau ers dechrau erchyllterau’r Holocost wedi gweld y dioddefaint a’r gyflafan yn parhau. Ar gynifer o achlysuron, mae gormod yn wir wedi anwybyddu a gwneud dim.”

Rhybuddiodd fod difaterwch torfol “o Rwanda i Darfur i Srebrenica” yn “amlygu ein methiant parhaus ni oll fel dynol ryw”.

Ebargofiant

 

Ychwanegodd fod pwysigrwydd cofio digwyddiadau fel yr Holocost yn cynyddu wrth i nifer y bobol sy’n gallu eu cofio leihau, ac wrth i atgofion byw droi’n “hanesion wedi eu hetifeddu”.

Meddai: “Wrth i’r llygad-dystion hynny edwino mewn niferoedd, mae hi’n hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i gofio’r hyn a ddigwyddodd.

Ein dyled ni i’r rhai a gollodd eu bywydau, a’r miliynau sydd wedi marw ers hynny, yw atgoffa ein hunain a chenhedloedd y dyfodol beth all ddigwydd – a beth sy’n digwydd – pan fo pobl yn anwybyddu gwleidyddiaeth casineb ac anwybodaeth.

Y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i ddioddefwyr yr Holocost fyddai i herio casineb ble bynnag y bo, ac i gynnig gobaith i’r rhai sydd mewn gofid.”

‘Diwrnod na ddylem byth ei anghofio’

 

Ychwanegodd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler fod y diwrnod yn un “na ddylem byth ei anghofio”.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’n ddiwrnod sy’n ein hatgoffa ond yn rhy dda pa mor greulon ac anfaddeugar y gall pobol drin ei gilydd.

“Ar y diwrnod hwn, ac ar bob dydd arall, dylem wneud popeth y gallwn i wneud yn siŵr fod erchyllterau o’r fath yn cael eu hatal, a’r rhai sy’n eu cyflawni’n cael eu dwyn i gyfiawnder.”