Roedd rhaglen Welsh or English? Lucy Owen’s Big School Dilemma eisoes wedi denu cryn dipyn o sylw cyn iddi hyd yn oed cael ei darlledu ar BBC One Wales nos Lun.

Yn y rhaglen roedd y gyflwynwraig Lucy Owen yn ceisio penderfynu a oedd hi am i’w mab hi a Rhodri Owen, Gabriel, gael addysg uwchradd drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Wrth geisio dod i benderfyniad bu cyflwynydd Wales Today yn siarad ag amryw o bobl gan gynnwys un teulu oedd yn rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Wrdw a Pwnjabi.

Ond fe sylweddolodd ambell i wyliwr craff bod yr isdeitlau dros un sgwrs yn dweud “conversing in a foreign language” – er mai Cymraeg oedd yr iaith oedd yn cael ei defnyddio gan y teulu ar y pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Ry’n ni’n cydnabod bod ’na wall yn yr isdeitlo ac wedi cymryd camau i  gywiro’r mater.”

Rhugl mewn pedair iaith

Wrth i aelodau o’r teulu Khan – Ariuj, Alina, Meriam ac Uzman – eistedd o gwmpas y bwrdd, bu Lucy Owen yn sgwrsio â nhw yn Saesneg am fanteision gallu siarad pedair iaith yn rhugl.

Ond mewn clip arall ychydig funudau’n ddiweddarach, roedd y pedwar aelod wedi troi at y Gymraeg wrth sgwrsio wrth y bwrdd bwyd – dim ond fod yr isdeitlau heb gydnabod hynny.

Roedd Media Wales eisoes wedi gorfod ymddiheuro dros y penwythnos ar ôl i erthygl a ymddangosodd yn y Western Mail a WalesOnline ynglŷn â’r rhaglen dynnu nyth cacwn i’w phen, ac arwain at #despitebeingtaughtinwelsh fod yn trendio ar Twitter drwy Brydain.

Ar ddiwedd y rhaglen, casgliad Lucy Owen oedd bod manteision parhau ag addysg Gymraeg i’w mab yn drech na’r pryderon roedd hi wedi’i fynegi’n gynharach.