Y Cynghorydd Siân Thomas yn rali Cymdeithas yr Iaith
Ychydig ddyddiau cyn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar dynged y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, mae rhai o gyn-gadeiryddion y cyngor sir wedi galw ar yr awdurdod i weithio drwy’r Gymraeg.

Mewn datganiad, mae Fioled Jones, Roy Llewelyn, Siân Thomas a Terry Davies wedi dweud bod angen i’r cyngor newid iaith gwaith bob dydd y cyngor i’r Gymraeg.

“Rydyn ni fel rhai o gyn-gadeiryddion Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar aelodau a swyddogion y Cyngor i symud yn awr i gyflawni rhagor o’u gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai’r datganiad.

Fe ddywedodd Siân Thomas wrth golwg360 fod angen ‘newid diwylliant’ y cyngor o gyfieithu popeth i’r Gymraeg i weithredu’n naturiol drwy’r iaith.

“Mae gormod o gynghorwyr a swyddogion (y cyngor) yn rhy swil i siarad Cymraeg yn gyhoeddus pan fod Cymraeg pert iawn ganddyn nhw,” meddai.

“Mae’n anodd, dydy’r Gymraeg ddim yn cael ei gweld yn ffasiynol rhagor ac mae’r r’un peth yn ein hysgolion Cymraeg (lle mae plant yn siarad Saesneg y tu allan i’r ystafell ddosbarth).”

Dysgu Cymraeg yn ‘arbed arian’ yn y pendraw

Yn 2014, mewn ymateb i ffigurau siomedig y Cyfrifiad yn Sir Gâr, fe gyflwynodd y cyngor ei adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’ sy’n argymell y dylai’r awdurdod symud tuag at weithredu’n Gymraeg.

Dywedodd Siân Thomas fod angen gweithredu’r argymhellion sydd yn yr adroddiad er mwyn newid iaith gwaith y cyngor.

“(I wneud hyn) dylwn gynnig gwersi Cymraeg i’r rheini sydd am loywi neu ddysgu Cymraeg, does dim digon o anogaeth yn cael ei roi i wneud hynna,” meddai, gan ddweud y dylai hyn fod ar gael i weithwyr yn ystod eu horiau gwaith, er gwaethaf yr her ariannol sy’n wynebu’r cyngor.

“Pe bai mwy o bobol yn siarad Cymraeg ac yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny, byddai costau gweithredu’r rheolau Cymraeg (safonau’r Comisiynydd Iaith) yn llai, felly mae’n golygu gwario mwy o arian ond arbed arian yn y pendraw.”

Cyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr

Yng nghyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr, mae Cymdeithas yr Iaith yn annog pobol leol i ddod ag enghreifftiau lle mae’r cyngor wedi methu â darparu gwasanaeth dwyieithog.

Fe fydd cyfle i holi’r panel sy’n cynnwys y Cynghorydd Mair Stephens, cadeirydd panel ymgynghorol y Gymraeg, y Cynghorydd Cefin Campbell, is-gadeirydd, y Cynghorydd Calum Higgins sy’n aelod ar y panel, a’r Cynghorydd Emlyn Doyle, arweinydd y cyngor.

Y cyflwynydd teledu a radio, Heledd Cynwal fydd yn agor ac yn cadeirio’r drafodaeth fore dydd Sadwrn am 10:30yb yn Llyfrgell Caerfyrddin.