Bydd rhai o leoliadau mwyaf eiconig Cymru yn cael eu gweld mewn hysbyseb deledu yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn Iwerddon ac yn yr Almaen wrth i Croeso Cymru lansio ei ymgyrch farchnata.

Mae 2016 yn Flwyddyn Antur yng Nghymru yn y byd twristiaeth, a nod yr ymgyrch yw creu enw i Gymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth antur.

Mae’r ymgyrch, sydd wedi costio £4m, yn cynnwys gweithgareddau fel ceufadu ar arfordir Sir Benfro; marchogaeth ar y traeth yn Llangynydd; gwyliau i’r teulu yn Nantgwynant; dringo yn Eryri a Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion.

Y gobaith yw cynnig golwg newydd ar Gymru, gyda delweddau o’r awyr yn rhoi cipolwg o’r dirwedd garw.

Bydd enwau adnabyddus ym myd antur yng Nghymru, fel y dringwyr Ioan Doyle ac Eric Jones hefyd yn ymddangos yn yr hysbyseb.

Y rhai fu’n gyfrifol am y gwaith oedd y cyfarwyddwyr Dylan Griffith a Marc Evans, gyda’r cwmni Smörgåsbord y tu ôl i’r ymgyrch gyfan.

Cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi’n a’i chynhyrchu gan y cyfansoddwr John Hardy a’r tîm yn John Hardy Music, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.

 
‘Profiadau heb eu hail’

O ran y prif syniad a’r straplein ‘Gwlad Gwlad’, dywedodd y cyfarwyddwr creadigol, Dylan Griffith: “Roeddem yn awyddus iawn i gyfleu’r cyfan sydd gennym ar garreg ein drws. Mae’r sector antur wedi mynd o nerth i nerth dros y 15 mlynedd diwethaf a gall gynnig profiadau heb eu hail erbyn hyn.

“Mae gwahoddiad i bawb fwynhau anturiaethau yma, ac nid dim ond anturiaethau sy’n llawn adrenalin. Mae antur yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.”

Yn 2014, gwelwyd y twf uchaf erioed yn niwydiant twristiaeth Cymru ac mae 2016 yn edrych yn addawol gyda rhai atyniadau wedi’u henwi gan gwmnïau teithio arbenigol, fel y Rough Guide, Lonely Planet  a Forbes, fel mannau y mae’n rhaid ymweld â nhw.

“Nod ein hysbyseb deledu gyntaf ar gyfer 2016 yw sefydlu Cymru fel cyrchfan ar gyfer anturiaethau yn yr awyr agored a defnyddio ein lleoliadau eiconig er mwyn ysbrydoli pobl i weld beth y gall ein gwlad ei gynnig,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.

“Mae Blwyddyn Antur 2016 yn casglu momentwm a bydd lansiad digwyddiad cyntaf y flwyddyn yn ddiweddarach yr wythnos hon wrth i’r arddangosfa gyffrous newydd, Trysorau: Anturiaethau Archeolegol agor yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.”

 


Marchnata yn Cologne, Munich a Pharis

Bydd gwaith marchnata’r Flwyddyn Antur yn parhau wrth i sioe deithio ymweld â dinasoedd Ewropeaidd yn ystod y Gwanwyn gan gynnwys Cologne, Munich a Pharis.

Bydd yr hysbysebion teledu yn cael eu darlledu am y tro cyntaf ar S4C yn ystod Pobol y Cwm am 20:12 ac ar ITV1 o fewn rhanbarthau targed y DU yn ystod Coronation Street am 19:45 yng Nghymru ac am 20:45 yn Lloegr.

Mae’r ffilmiau a’r ymgyrch yn defnyddio’r hashnodau #GwladGwlad a #FindYourEpic er mwyn annog ymwelwyr i rannu eu profiadau ar-lein.