Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
Fe fydd arddangosfa arbennig i gofio effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru yn agor yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf.

I gyd-fynd â’r achlysur, fe fydd diwrnod agored pryd y bydd cyfle i gyfrannu at hanes trwy ysgrifennu enwau milwyr a gafodd eu lladd mewn copi digidol o Lyfr y Cofio Cenedlaethol.

Mae’r llyfr hwn, sy’n cael ei gadw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, eisoes yn cynnwys 35,0000 o enwau.

Mae’r arddangosfa a’r diwrnod agored yn rhan o brosiect pedair blynedd Cymru Dros Heddwch sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.