Elin Jones
Bydd Swyddfa Bost Aberystwyth yn symud o’i hadeilad hanesyddol yng nghanol y dref i swyddfa ar y cyd mewn siop arall.

Dros y mis nesaf, bydd y cwmni’n gwahodd ceisiadau gan siopau eraill i gynnal y gwasanaeth yn y dre’ a bydd yn agor cyfnod o ymgynghori.

Mae’r Swyddfa Bost wedi gwneud cyfres o newidiadau tebyg o’r blaen, gan gynnwys cau’r swyddfa yng Nghaerfyrddin a’i symud i siop W H Smith’s yn y dref.

Yn ôl y cwmni, mae’r swyddfeydd annibynnol yn gwneud colled, ac y byddai symud ei wasanaethau i siopau yn gam i arbed y gwasanaethau hynny.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Elin Jones, Aelod Cynulliad dros Geredigion wedi sefydlu deiseb yn galw ar y Swyddfa Bost i ail-ystyried ei phenderfyniad.

“Mae hyn yn ddatblygiad sy’n achosi pryder mawr, am nifer o resymau. Mae’r adeilad yng nghanol Aberystwyth yn lleoliad eiconig a hanesyddol; byddai’n drueni mawr ei golli,” meddai.

“Fel mae unrhyw un sydd wedi defnyddio’r Swyddfa Bost ar adegau prysur yn medru tystio, mae Swyddfa Bost y Goron yn Aberystwyth yn cael ei defnyddio’n helaeth gan y cyhoedd, ac mae’n adeilad mawr, hygyrch a phwrpasol.

Pryderu am saith swydd

Mae saith person yn gweithio yn y Swyddfa Bost yn Aberystwyth ar hyn o bryd a dywedodd Elin Jones fod y cyhoeddiad hwn yn “achosi pryder” iddyn nhw a’u teuluoedd.

“Byddwn yn annog pobl yn Aberystwyth i ddweud eu barn yn glir wrth y Swyddfa Bost,” meddai yn cyfeirio at y broses ymgynghori.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Swyddfa Bost.